*Scroll down for English*
Llyfr sy'n dathlu bod yn wahanol!
A book that celebrates our uniqueness!
♥Llyfr y Mis i Blant: Gorffennaf 2019♥
♥Children's Book of the Month July 2019♥
Genre: llyfr lluniau, #moesol #amrywiaeth / Picture book, #moral #diversity
Gwerth addysgiadol/educational value: ◉◉◉◉◉
Negeseuon positif/positive messages: ◉◉◉◉◉
Themau trist,anodd/upsetting, tough themes: ◎◎◎◎◎
Trais, ofn/violence, scary: ◎◎◎◎◎
Iaith gref/language: ◎◎◎◎◎
Rhyw/sex: ◎◎◎◎◎
Hiwmor/humour: ◉◎◎◎◎
Her darllen/reading difficulty: ◉◉◎◎◎
Dyfarniad/Rating: ★★★★☆
Y peth cyntaf sy’n fy nharo am y llyfr yw’r defnydd o liwiau llachar. Mae’r clawr melyn yn denu’r sylw yn syth ac mae’n hyd yn oed mwy lliwgar tu fewn. Bydd hyn yn siŵr o apelio at ddarllenwyr ifanc – mae’r cyfuniad o liwiau, prysurdeb a chyffro’r tudalennau yn gwneud y darllen yn fwy difyr.
Llythyr gan frawd mawr at ei frawd neu ei chwaer fach yw hon. Cafodd y prif gymeriad ei ddylunio yn gender neutral gan yr awdur/arlunydd, Sophy Henn. Dwi’n meddwl fod hyn yn eithaf cŵl ac yn dangos fod pobl yn rhydd i fod yn pwy maen nhw eisiau bod - heb yr angen am labeli. Mae o wedi gwylio ei frawd/chwaer fach yn tyfu fyny ac wedi sylwi ar wahanol agweddau o’i chymeriad a’i phersonoliaeth a sut maen nhw’n amrywio o un dydd i’r llall. Er enghraifft, weithiau maen nhw’n ‘ddihiryn drwg’ ac ar adegau eraill fe allent fod yn ’arwr da.’ Weithiau fe all fod yn swnllyd iawn, yn llawn cyffro ac egni, a throeon eraill, maen nhw’n dawel ac yn well yng nghwmni ei hun. Dwi’n siŵr fydd plant a rhieni yn gallu uniaethu gyda’r gwahanol hwyliau/tymer ar wahanol adegau - mae hyn yn naturiol iawn ac yn bwynt trafod defnyddiol.
Un o fy hoff ddarnau’r llyfr oedd tudalennau 17-18 lle mae’n disgrifio’r dillad: “Ac os yw pawb mewn streipiau smart, rwyt ti mewn sbotiau, sbo.” Efallai y bydd hyn yn mynd dros bennau rhai o’n darllenwyr ifanc ond mae’r neges tu ôl i’r dillad yn un mor bwysig. Hynny yw, does dim ots beth mae pawb arall yn wneud - maen nhw’n bod yn nhw heb boeni am beth mae pobl yn feddwl. Do your own thing ynte? Does dim rhaid i chi fod yn ddefaid a dilyn y dorf er mwyn ‘ffitio i mewn’ - byddwch yn chi a byddwch yn falch o hynny. Own it.
Wrth ddarllen y stori, caf fy atgoffa o un o fy hoff ganeuon gan Fleetwood Mac – ‘You can go your own way.’ Ok, efallai mai ffrae rhwng cariadon yw ystyr y geiriau, ond dwi’n dal i feddwl eu bod nhw’n berthnasol iawn i fywyd – ‘go your own way’ -gwnewch bethau eich ffordd chi!
Mae’r stori yma yn ddathliad o wahaniaethau a hunaniaeth sy’n rhoi neges bositif iawn i blant ei bod hi’n iawn i fod yn wahanol. Mae’r defnydd o’r enfys a lliwiau Pride hefyd yn gwneud cyfeiriad subtle tuag at rywioldeb. Defnyddiol hefyd yn fod cyfeiriad at yr elusen Stonewall Cymru yng nghefn y llyfr. Caiff y stori ei adrodd yn y person cyntaf, mewn ffordd gyfeillgar, dyner. Un peth dylid nodi - gan fod mydr ac odl i’r llyfr, mae llyfrau fel hyn yn gallu bod yn anodd eu cyfieithu, ac o ganlyniad mae hwn yn fwy o addasiad. Mae’n drosiad llwyddiannus sy’n cadw naws a theimlad y gwreiddiol ond mae angen bod yn ymwybodol efallai na fydd y fersiwn Cymraeg a Saesneg yn cyfateb yn union. Fodd bynnag, dwi mor falch o weld ei fod yn llyfr dwyieithog. Gall lyfrau fel hyn gyrraedd cynulleidfa ehangach ac yn ffordd dda i riant a phlentyn ymgyfarwyddo â’r Gymraeg gyda’i gilydd drwy ddarllen.
Dwi’n falch o weld cynrychiolaeth BAME (Black, Asian, and Minority Ethnic) yn y llyfr sy’n adlewyrchu amrywiaeth ein cymunedau. Dwi wedi teimlo ers tro fod y gymuned BAME yn cael ei dangynrychioli mewn llyfrau Cymraeg, felly dwi’n falch o weld mwy o diversity yn dechrau ymddangos yn ein llyfrau plant. Mae ‘na wastad lle i wella...
Dyma lyfr hynod o annwyl sy’n werthfawr iawn fel stori amser gwely, neu fel adnodd yn yr ysgol i ddathlu fod ni gyd yn unigryw – pa neges well i roi i blant wrth iddyn nhw dyfu i fyny a datblygu hunaniaeth eu hunain?
The first thing that strikes me about the book is the use of bright colours. The yellow cover attracts immediate attention and is even more colourful inside. This will undoubtedly appeal to younger readers – the combination of colours, busyness and excitement of the pages makes the reading more enjoyable.
The book is basically a letter from a big brother to his little brother or sister. The main character was drawn gender neutral by the author/illustrator Sophy Henn. I think this is rather cool and feeds into the idea that you are free to be who you want to be without the need for labels. He has watched his little sibling grow up and noticed different aspects of their character and personality and how they vary from day to day. For example, sometimes they are a ‘bad baddie’ and at other times they’re a hero. Sometimes they are very noisy, excited and full of energy, and at other times, would rather their own company. I'm sure children and parents alike will be able to identify with the different moods and tempers we experience at different times – this is totally natural and an useful point of discussion.
One of my favourite bits of the book were pages 17-18 where he describes their sibling’s choice in fashion: "Sometimes you’re polka-dotty, when everyone’s in stripes.” Perhaps this message may end up going over some of our younger readers heads initially, but behind the clothes is a really important message. It doesn't matter what everyone else is doing – they are being themselves. You don't have to be sheep and follow the crowd in order to ' fit in ' – you be you and be proud of that. Own It.
Reading the story, I am reminded of one of my favourite songs by Fleetwood Mac – 'You can go your own way.’ Ok, the words may actually have been about a row between two people, but hey, I still think they’re good bits of advice for life in general – 'go your own way' in life – do things your way!
This story is a celebration of differences and identity which gives children a very positive message that it’s OK to be different. The use of the rainbow and Pride colours makes a really subtle reference to sexuality and personal choice which is totally age appropriate for this book. We also have a link to the charity, Stonewall Cymru in the back of the book. The story is told in the first person, in a friendly, gentle way. One thing should be noted-as the book contains rhyme, these sorts of books can be difficult to translate, and as a result this is more of an adaptation. It is a successful one at that, which preserves the tone and feel of the original but we need to be aware that the Welsh and English versions may not exactly correspond. However, I am so pleased to see that it is a bilingual book. Books such as this can reach a wider audience and are a good way for a parent and child to practice in Welsh together through reading.
I am pleased to see the representation of the BAME (Black, Asian, and Minority Ethnic) community in the book which reflects the diversity here in Wales. I’ve always felt that the BAME community has been under-represented in Welsh language books, so it’s good to see more diversity being presented. We still have a way to go…
This is a sweet book that could be valuable as a bedtime story, or as a resource in schools to celebrate the uniqueness that makes us Super Duper! What better message to give to young children who are developing their sense of self-identity?
Comments