*Scroll down for English*
O na! Mae'r bysen gas yn ôl i greu helynt!
Oh no! Evil pea's back causing trouble! Welsh adaptation of Supertato Carnival Catastro-Pea!
Negeseuon positif/positive messages: ◉◉◉◎◎
Themau trist,anodd/upsetting, tough themes: ◎◎◎◎◎
Trais, ofn/violence, scary: ◉◎◎◎◎
Iaith gref/language: ◎◎◎◎◎
Rhyw/sex: ◎◎◎◎◎
Hiwmor/humour: ◉◉◉◉◎
Her darllen/reading difficulty:: ◉◉◉◎◎
Dyfarniad/Reviewer Rating: ★★★★★
Oed darllen/reading age: 6+
Oed diddordeb/interest age: 3+
Wel, mi gafodd ‘Supertaten: Llanast y Carnifal’ test drive yn tŷ ni’n ddiweddar gyda fy nghefndryd ifanc, a saff i ddweud aeth y llyfr i lawr yn DDA IAWN! Mae’r ddau yn byw yn Nghilgwri (Wirral) felly maen nhw’n siarad cymysgedd o Gymraeg a Saesneg adref, ond Saesneg yn yr ysgol wrth reswm.
Mae ‘na lot o bobl yn cwyno am addasiadau (ac iawn, weithia mae na ormod o rai sâl yn cael eu cyhoeddi) ond dyma enghraifft o gyfres sy’n llwyddo 100%. Roedd yr hogia’n gyfarwydd â’r cymeriadau’n barod ac roedden nhw’n ddigon bodlon i fwynhau’r stori eto, yn Gymraeg, gan wneud cysylltiadau â phan oedden nhw wedi ei darllen yn Saesneg yn yr ysgol.
Un o’r pethau gorau am y gyfres ydi’r lluniau – pob tudalen fel ffrwydrad o liw ddim yn rhy annhebyg i gomig, ac mae’n llwyddo i ddenu (a chadw) sylw darllenwyr ifanc yn ddi-ffael. Cryfder arall y straeon yw dawn adrodd stori y bartneriaeth 'sgwennu - Paul Linnet a Sue Hendra - mae ‘na rhyw hiwmor a cheekiness yn perthyn i’r cymeriadau sy’n gwneud i’r llyfrau deimlo’n ffres ac yn fodern iawn o’u cymharu â rhai llyfrau. Dwi’n teimlo ein bod ni’n nabod y cymeriadau yn dda. Fedrwch chi’m helpu ond eu licio - hyd yn oed y bysen gas ‘na!
Yn sicr, mae’r awduron yn deall sut i adeiladu cyffro a thensiwn, ac mae’r parodrwydd i gael hwyl wirion yn rhan o’r rheswm pam fod y llyfrau mor apelgar. Mae’r ddeialog dros ben llestri’n gweithio’n dda ac yn mynd a’r busnes ‘good guy’ vs ‘bad guy’ i’r eithaf! Dim rhyfedd fod athrawon Y Cyfnod Sylfaen yn mwynhau rhannu’r llyfrau yma gyda’u dosbarthiadau ar y mat - mae digon o gyfleoedd i wneud lleisiau gwirion ac i actio dipyn ar y stori er mwyn creu tipyn o gyffro.
Carnifal mawreddog sydd ar y gweill yn y llyfr yma, ac mae’r llysiau wrthi’n paratoi ar ei gyfer. Ond wrth gwrs, dydi pethau byth yn mynd according to plan, achos mae’r bysen gas o gwmpas unwaith eto i greu hafog a helynt. Tro ‘ma, mae ganddo gynllun ofnadwy - dyfais sy’n sugno’r lliw allan o bawb a phopeth! O na!
Gyda help ei chriw ffyddlon o lysiau a ffrwythau, fydd supertaten yn llwyddo i ddod a lliw’n ôl i fyd yr archfarchnad?!
Am syniad gwych, sy’n cyflwyno ‘mild peril’ er mwyn sicrhau ‘chydig o densiwn a buddsoddiad emosiynol ond dim byd rhy arswydus. Dwi’n meddwl fod y tudalennau canol du a gwyn (sy’n rhan o’r stori) yn glyfar iawn.
Mi fydd bechgyn a merched yn caru’r llyfrau yma, ond dwi wedi ffeindio fod y gyfres yn effeithiol i'w ddarllen gyda phlant sydd fel arfer yn rhy ddiamynedd i eistedd a gwrando ar stori. Mi faswn i hefyd yn argymell y llyfr yma i rieni sy’n anghyfarwydd efo darllen gyda’u plant, gan fod o’n gymaint o hwyl.
Mae’r llyfr yn cael sgôr ‘ardderchog’ gen i achos dwi’n gwybod bydd oedolion yn mwynhau darllen y stori ‘ma gymaint a’r plant, sy’n braf. Alla i ddim disgwyl i fynd i’r llyfrgell i nôl un arall erbyn i’r hogia’ ddod acw tro nesaf.
Well, 'Supertaten: Llanast y Carnifal' recently got a test drive in our house with my young cousins, and safe to say the book was very well received. Both live in the Wirral so they speak a mix of Welsh and English at home, but English in school of course.
You often get a lot of people complaining about adaptations (and yeah, there probably are too many poor ones being published) but this is an example of a series that really works. The boys were already familiar with the characters and were quite happy to re-read the story, this time in Welsh, making connections with when they had read it in English at school.
One of the best things about the series are the comic style pictures – each page an explosion of colour which succeed in attracting (and holding) the attention of young readers without fail. Another strength of the books is writing partnership Paul Linnet and Sue Hendra's storytelling abilities. The characters are fun and have a bit of cheekiness to them which gives the book a fresh and modern feel compared to some books. I felt like we knew the characters well and you can’t help but like them – even that dastardly pea!
The authors certainly understand how to build excitement and tension, and their willingness to have some silly fun is part of the reason why the books are so appealing. The over-the-top dialogue works well and she takes the good guy vs bad guy stuff to the max! No wonder Foundation Phase teachers enjoy sharing these books with their classes on the mat - there are plenty of opportunities to make silly voices and act a bit on the story to create a bit of excitement.
In this book, a grand carnival is about to be held and the veggies are in the process of getting ready for it. But of course, things never go to plan- because the evil pea is back once again to wreak havoc and chaos. With her most evil and ingenious plan yet, she has a new device that will suck the colour out of everyone and everything!
With the help of her loyal band of fruit and veg, will Supertaten succeed in bringing colour back to the supermarket?!
What a great idea this was, which introduces 'mild peril’ to ensure a bit of tension and emotional investment but nothing too scary or serious. The contrasting black and white pages in the middle were especially clever.
Boys and girls will love these books, but I have found this series to be one of my ‘go to’ books for reading with children who don’t normally have the patience to sit and listen to a story. I would also recommend this book to parents who are unfamiliar with reading to their children, as it’s so much fun.
The book gets an 'excellent' score from me because I know that adults will enjoy reading it as much as children do, which is cool. I can't wait to go to the library to get another one by the time the boys come over again.
Comments