*Scroll down for English*
Oed darllen/reading age: 5+
Oed diddordeb/interest age: 2-6
Mae llyfrau Supertaten wastad yn plesio a dyw'r llyfr diweddaraf ddim yn eithriad!
Hwrê! Mae achos i ddathlu achos mae ’na lyfr Supertaten newydd i’w ychwanegu at y casgliad! Fe’i cyhoeddwyd yn wreiddiol yn Saesneg; mae’r dream team, Sue Hendra a Paul Linnet, wedi cael cryn lwyddiant gyda'r gyfres.
Unwaith eto, mae’r bysen gas wedi bod wrthi’n creu helynt a hafoc i’r llysiau eraill yn yr archfarchnad (mwahahaha!). Y tro hwn, mae hi’n amser bath i’r llysiau, ond mae’r bysen gas wedi cyfnewid y bybls arferol am ‘swigod hynod’ sy’n creu dipyn o drafferth i’r giang pan mae’r swigods yn mynd allan o reolaeth. Diolch byth fod Supertaten gerllaw!
Gyda ’chydig o help gan gymeriad newydd, Y Mango Mwyn (sy’n gymeriad eitha cŵl efo’i fandana hipîaidd, er dwtsh yn ystradebol) bydd rhaid i Supertaten ac yntau weithio fel tîm i ffeindio ffordd o ddifa’r swigod trafferthus. Dipyn o cool dude ydi Mango Mwyn, a swni’n licio bod mor chilled out a fo weithia!
Dyma’r pumed llyfr Supertaten i gael ei drosi i’r Gymraeg, ac er nad hwn yw’r stori gryfaf yn y gyfres yn fy marn i, mae’r cynhwysion elfennol sy’n gwneud llyfrau Supertaten mor boblogaidd gyda phlant i gyd yno.
Mae’r tudalennau yn llawn lliwiau trawiadol, ac mi allwch deimlo’r cyffro a’r “action” yn neidio oddi ar bob tudalen gyda’r defnydd o steil superhero comics. Dwi’n meddwl bod y plot ‘good guy vs bad guy’ syml yn apelio’n fawr at blant ifanc, ac mae’r llyfr yn mynd i lawr yn dda efo bechgyn (a merched wrth gwrs) o fy mhrofiad i.
Bob tro mae fy nghefndryd (un yn 3, llall yn 5) yn dod draw i Gonwy, mae ’na wastad set o go-to books sy’n cael eu dewis dro ar ôl tro. Mae Hanes y Twrch Daear yn un, Not now, Bernard yn un arall, ac fe allwch fod yn sicr mai un o lyfrau Supertaten fydd y llall.
Ydi, mae’r straeon yn hollol wacky a dros ben llestri, ond dyna’n union pam maen nhw mor boblogaidd gyda’n darllenwyr ifanc. Yn aml iawn ’da ni oedolion yn hoffi deud be ddylai’r plant fod yn ei ddarllen. Ond dewch i ni fod yn onest am funud – y plant sy’n gwbod be sy’n gwneud llyfr da!
Dwi’n siŵr os edrychwch chi ddigon manwl, fod ’na negeseuon a life lessons yn cuddio yn llyfrau Supertaten, ond i mi, yr hwyl gwirion OTT ’na sy’n gwneud rhain yn lyfrau ardderchog. Wrth gwrs bod ‘na le i bethau mwy serious, ond weithia dwi jest yn teimlo bod ni’n colli elfen o’r hwyl ’na yn y Gymraeg wrth drio stwffio gormod o negeseuon moesol i mewn i bob stori.
Dyma i chi gyfres sy’n dangos i blant bach fod darllen yn gallu bod yn hwyl, a wyrach y gwnewch chi lwyddo i'w perswadio bod ffrwythau, llysiau (a fish fingers) yn eitha cŵl hefyd!
Supertaten books always go down a treat, and the latest instalment is no exception!
Woop! There’s cause to celebrate because we’ve got another Supertaten book to add to the collection! Originally published in English, the dream team consisting of Sue Hendra and Paul Linnet, have had considerable success with this series over the years.
Once again, the pesky pea has been causing havoc for the other supermarket veggies (mwahahaha!) by swapping the normal bubbles for extreme bubbles. At least Supertaten’s around to sort out the mess!
With a bit of help from a mysterious new character, Supertaten is able to save the day before the bubbles take over. Mango Mwyn, with his hippy-esque bandana, is one knowledgeable dude, though he could come across as a little bit stereotypical for some. I wished I was as chilled out as him though.
This is the fifth in the Supertaten series to be adapted into Welsh, and although this isn’t the strongest entry in my opinion, (plot not that exciting and a bit of an anticlimax) the key ingredients that make Supertaten books recognizable and popular with young audiences are all there.
The pages are full of bright and vibrant colours, and you can feel the excitement jumping off each page with the use of superhero comics style. I think the simple good guy vs bad guy plot thread is very appealing to young children, and the book goes down well with boys (and girls of course) from my experience.
Every time my cousins (one is 3, the other aged 5) come over to Conwy, there’s always a set of go-to books that are usually chosen. Hanes y Twrch Daear (Bethan Gwanas) and Not now, Bernard being two examples, and you can bet that a Supertaten book will be the other.
Yeah, the stories are completely wacky and over the top, but that's exactly why they're so popular with our young readers. Very often we adults like to say what the children ought to be reading. But let's be honest for a minute – it’s the children who know what makes a good book.
I'm sure if you look in enough detail, you’ll find important messages and life lessons hiding within the books, but for me, it's the silly OTT fun and mild peril that make these books great. Whilst there’s always a place for more serious things, I just feel we sometimes lose a bit of that ‘fun’ in Welsh language books by trying to stuff too many moral messages into our stories.
This is a series that shows children that reading can be fun, and it may even persuade them that fruit, vegetables (and fish fingers) are pretty awesome too!
Comments