*For English review, see language toggle switch*
♥Llyfr y Mis i blant: Ebrill 2023 ♥
(awgrym) oed darllen: 15+
(awgrym) oed diddordeb: 15+
Disgrifiad Gwales:
Dyma nofel gyntaf Casia Wiliam ar gyfer Oedolion Ifanc 16+ oed. Stori yw hi am Leia a Sam, stori gariad gignoeth, sydd hefyd yn stori am gymuned, am ddysgu, am fentro ac am faddeuant. Ar ôl cael eu gorfodi i fod ar wahân am sbel, gwelwn eu bywydau’n croesi eto yn y ganolfan gymunedol, lle mae'r stori'n dechrau.
Ar glawr nofel gyntaf Casia Wiliam i oedolion ifanc mae dyfyniad gan Megan Angharad Hunter sy’n taro’r hoelen ar ei phen: “Cwtsh o nofel sy’n gorlifo gan hiwmor cynnes a chymeriadau byw.”
Mae prif gymeriad y nofel, Leia, yn gweithio mewn canolfan gymunedol (achos Community Service), felly does dim prinder o gymeriadau credadwy o gefndiroedd ac oedrannau gwahanol, pob un yn cyfrannu i stori Leia – mae Sarah Lloyd y tiwtor celf yn dipyn o ffefryn i fi. “Pam mae hi’n gwneud Community Servie?” meddech chi. Wel, fe ddown ni i ddysgu pam yn raddol, yn ogystal â dysgu mwy am Leia a’i ffrindiau o’r ysgol gynradd tan eu presennol trwy benodau o ôl-fflachiadau crefftus. Roeddwn i eisiau i ambell gymeriad ailymddangos ym mywyd Leia, ond er na ddigwyddodd hynny does dim byd yn teimlo ar goll yn y stori.
Mae ysgrifennu Casia Wiliam mor fyw yn y nofel; o fewn ychydig dudalennau ro’n i’n teimlo fy mod i’n ‘nabod Leia ac eisiau’r gorau iddi hi. Er hyn, dwi’n teimlo fel fy mod i wedi bod ar wibdaith emosiynol gyda Leia, yn teimlo popeth o falchder i rwystredigaeth, gobaith i ryddhad, tor calon i gariad, ofn i gyffro. Ym mhenodau olaf y nofel byddwch chi eisiau sgrechian ar Leia a gofyn, “BETH WYT TI’N GWNEUD?!” cyn ail-feddwl a bod eisiau rhoi cwtsh anferth a chefnogaeth iddi hi.
Fe ges i fy atgoffa ’chydig bach o gyfres ddiweddar y BBC, Outlaws, gan benodau cynnar y nofel – tybed oedd Casia’n ffan o’r gyfres? Ta beth am hynny, dwi’n meddwl byddai stori Leia yn gwneud cyfres ddrama neu ffilm wych, rhywbeth twymgalon i’w wylio ar nosweithiau tywyll y gaeaf.
Mae hon yn chwip o nofel, felly ewch ati i’w darllen hi, wnewch chi ddim difaru gwneud. Gawn ni fwy o lyfrau fel hyn, plîs, Casia!
Kommentare