top of page
Writer's picturesônamlyfra

Teyrnas Kenzuke - Michael Morpurgo

*scroll down for English & to leave a comment*


Antur ar y môr a brwydr i oroesi.

A spellbinding tale of survival and self-discovery.



Gwasg/publisher: Dref Wen

Addasiad/adaptation: Dafydd Morse

Cyhoeddwyd/published: 2009

ISBN: 978-1-85596-845-5


*Addasiad/adaptation from English*


Lefel: ❖ ❖ ❖


Iaith ddim rhy anodd ond mae'n debyg y byddai'n well ar gyfer darllenwyr hyderus.

Language not too difficult but probably best suited to more confident readers.


 

Enillodd y llyfr gwreiddiol Saesneg ‘Kensuke's Kingdom’ y Wobr Llyfrau Plant 2000 a chafodd y rhestr fer ar gyfer y Gwobrau Plant Whitbread a Carnegie. Mae wedi gwerthu dros 400,000 copi ar draws y byd. Mae’n un o fy hoff nofelau gan yr awdur enwog, Michael Morpurgo ac o'r diwedd, mae o yn Gymraeg.



Dyma i chi stori o antur ar y moroedd mawr, a brwydr i oroesi wrth i’r prif gymeriad, Meilyr ffeindio’i hun wedi ei longddryllio ar ynys ryfedd ar ochr arall y byd.


Mae’n gyfnod o newid llwyr i fyd cyfforddus Meilyr pan mae ei rieni yn colli eu swyddi yn y ffatri friciau. Yng ngeiriau Meilyr ei hun: “tan i’r llythyr ddod, roedd bywyd yn hollol normal.” Mwyaf sydyn, mae tad Meilyr yn datgan ei fod wedi gwerthu ei gar, a bod y teulu cyfan yn symud i Dde Lloegr. O na! Ac fel tase hynny ddim yn ddigon o sioc, mae o wedi prynu cwch, Y Ladi Wen ac maen nhw am fynd i hwylio’r byd. Dyna ddechrau ar yr antur fawr- Mam, Dad, Meilyr a Sali Mali'r ci, ar fwrdd y Ladi Wen. Nid yw’n fêl i gyd yn amlwg, fel mae'r llinell gyntaf yn awgrymu: “Diflannais y noson cyn fy mhen-blwydd yn ddeuddeg oed. Yr wythfed o ar hugain o Orffennaf, 1988.” O fewn dwy frawddeg o ddarllen, roeddwn i’n hooked. Yn benderfynol o ddarganfod beth ddigwyddodd i Meilyr.



Mae’r awdur yn dod a chymaint o themâu a phynciau i mewn i’r llyfr, mae’n byrstio â gwybodaeth ddaearyddol am fyd natur, hanes a mordwyo. Yn ystod rhan gyntaf y fordaith mae gennym gyfeiriadau di-ri at anifeiliaid rhyfeddol y mae’r teulu’n dod ar eu traws, a phorthladdoedd mewn gwledydd pell. Yn glyfar iawn, mae’r awdur yn cyfleu’r doreth o wybodaeth yma ar ffurf lòg llong, sy’n rhywbeth go-iawn y mae morwyr yn gadw. Wrth ddarllen, dim gair o gelwydd, mi oedd gen i fap o’r byd, ac mi wnes i gadw trac o’r fordaith gan ddefnyddio ‘sticky dots.’ Roedd hyn yn weithgaredd hynod o ddiddorol i wneud wrth ddarllen. Dwi’n cofio hefyd defnyddio’r we i ddarganfod mwy am rai o’r anifeiliaid yn y stori, fel y Pysgodyn Hedegog a’r Heulforgi. Mae rhywun yn dysgu cymaint wrth ddarllen y llyfr yma, gan fwynhau stori wych ar yr un pryd.


Mewn storm enfawr, mae Meilyr a’r ci yn cael eu taflu dros ochr y gwch. Mae hyn yn ddigwyddiad brawychus a fedrai ddim ond dychmygu pa mor ofnadwy o deimlad fyddai gweld eich teulu yn hwylio i ffwrdd a chithau yng nghanol y tonnau oer a ffyrnig.


Wrth geisio cadw’n fyw ar yr ynys, mae Meilyr yn dod ar draws hen ddyn Japaneaidd, sef Kenzuke. Mae o’n gofalu am Meilyr, er nad ydynt yn ffrindiau nac yn debyg o gwbl. Ar y cychwyn, maent yn ffraeo, gan i Meilyr ei weld fel hen ddyn blin ac annifyr, ond tros amser, mae’r ddau yn tyfu’n agosach ac yn dod yn ffrindiau mawr.



Mae canol y nofel yn eithaf araf, wrth i ni glywed am fywyd ar yr ynys, wrth iddyn nhw ddelio gyda phob math o drafferthion, fel y pobl ddrwg sy’n dod i’r ynys i aflonyddu ar yr anifeiliaid. Er fod cyflymdra’r stori yn arafach yma, mae’r awdur yn gwybod yn iawn beth mae’n ei wneud. Mae’n datblygu’r cymeriadau’n dda ac erbyn y diwedd rydym ni’n eu nabod yn well ac yn bwysicach, yn malio amdanynt.



Heb sboilio’r nofel, mae ‘na ‘dwist’ mawr tua’r diwedd a phob math o ddatguddiadau wrth i ni ddarganfod mwy am Kenzuke, y dyn dirgel sydd ‘bia’r’ ynys. Mi wnâi eich rhybuddio am un peth - pan oeddwn yn darllen y llyfr am y tro cyntaf, doedd dim llygaid sych yn y dosbarth, ac roeddwn i’n cael trafferth dal y dagrau’n ôl. Emosiynol iawn.


Os ydych yn hoffi anifeiliaid, antur, y môr, daearyddiaeth, hanes, a stori wych gyda chymeriadau bendigedig; yna darllenwch Teyrnas Kenzuke. Dwi’n synnu nad yw hwn wedi cael ei droi mewn i ddrama deledu a dweud y gwir, gan ei fod mor dda, ond mae llyfr yn curo’r TV pob tro!


 

The original English version, ‘Kenzuke’s Kingdom’ won the Children’s Book Award 2000 and was shortlisted for the Whitbread Children’s Prize and the Carnegie Medal. It’s sold over 400,000 copies across the world and it’s my favourite Michael Morpurgo novel. At last, we have a Welsh version of this classic!



This is a story of adventure on the high seas and desert Island Survival as the main character, Meilyr, finds himself shipwrecked on a strange Island on the other side of the world.


Meilyr’s comfortable life is turned upside down when his parents lose their jobs in the local brickworks. In Meilyr’s own words; “life was normal until the letter came.” All of a sudden, his Dad sells the car and declares that the whole family is moving to Southern England. Oh no! And if that wasn’t enough, he’s bought a boat, and they are going to sail around the world aboard the Ladi Wen. Things won’t be plain sailing though as you can imagine from the First lines of the book: “I disappeared on the night before my twelfth birthday. 28th of July, 1988.” Within two sentences, I was hooked. I simply had to know what happened to Meilyr.


The author brings so many themes and subjects into his book, that is almost bursts! It’s full of geographical and historical facts, nautical terms, animals and wildlife. In the First half of the novel we see many creatures and far-away destinations that they encounter on their world voyage. Cleverly, the author conveys this huge amount of information in the form of a ship’s logbook, a real-life diary that sailors would have kept. As I read, no word of a lie, I had a blank map of the world, that I used to chart their voyage with sicky dots – a really interesting activity to do whilst reading. I used the Internet to find out more about animals such as the Basking shark and the flying fish. One learns so much about the world from reading this book, whilst enjoying a brilliant story at the same time.



A huge storm causes Meilyr and his dog to be thrown overboard. This is frightening and I can only imagine what it would be like to see your family sailing away as you are floating in the cold, vast ocean.

As he adjusts to life on the Island, Meilyr comes across an old Japanese man, Kenzuke. He cares for Meilyr, even though they aren’t friends, or even remotely alike. To begin with, they quarrel and Meilyr sees him as an angry old man, whilst Kenzuke is annoyed with Meilyr for disturbing his peace. Over a long time, they get to know each other and become close friends.


The middle of the novel could be described as quite slow, as we find out lots about day to day life on the Island. We hear of their struggles against ‘bad people’ who come onto the Island to disturb the wildlife. Despite the slower pace, the author knows exactly what he’s doing. He is telling the reader of the hardship of life on the Island and developing the characters into ones we really understand and care about.



Without spoilers, there’s a huge twist at the end of the novel! Will we find out more about the mysterious Kenzuke and how he came to be on ‘his’ Island. I will warn you of one thing, when I read this story aloud for the first time, there was not a dry eye in the classroom and I struggled – and failed- to hold back the tears.


Bottom line – if you like animals, adventure, the ocean, geography, history and a brilliant story with excellent characters, then read Teyrnas Kenzuke. I actually preferred the Welsh version. This story is so good that it will soon become an animated film, but trust me, read the book – they’re always better!

66 views0 comments

Comentários

Avaliado com 0 de 5 estrelas.
Ainda sem avaliações

Adicione uma avaliação
bottom of page