top of page

Thesawrws Lluniau Mawr - Rosie Hore [Addas. Siân Lewis]

Writer's picture: sônamlyfrasônamlyfra

*Scroll down for English*


Dros 2,000 o eiriau anhygoel i wella'ch gwaith!

Over 2,000 amazing words to improve your work!

 

Gwasg/publisher: Rily

Cyhoeddwyd/released: 2019

Pris: £9.99

Clawr caled / Hardback

 

Dwi’n cofio cael ffrae yn ‘rysgol gan athrawes am ddefnyddio ‘neis’ fel ansoddair wrth ddisgrifio rhywbeth. Yn anffodus, mae o’n air sy’n cael ei ddefnyddio yn llawer rhy aml, mae o’n hollol ddiflas ac yn dangos fawr ddim dychymyg!


I fod yn deg, weithiau, mae disgyblion yn gwybod be maen nhw’n trio ei ddweud, ond yn aml yn methu ffeindio’r eirfa i fynegi hyn a dyna pryd gewch chi ‘neis’ yn dod i’r fei. Cymerwch y sefyllfa yma fel enghraifft - plentyn sy’n mynychu ysgol Gymraeg ac sy’n cael ei wersi yn Gymraeg. Ond, mae’n siarad Saesneg gyda’i ffrindiau yn y dosbarth, a Saesneg yw iaith yr iard. Ar ôl mynd adref (lle mae’r plentyn yn treulio canran anferth o’i amser) mae’n siarad Saesneg efo’i deulu cyfan. A dweud y gwir, mewn sawl ysgol ar hyd a lled Cymru, yr unig adeg mae’r plentyn yn siarad Cymraeg yw wrth sgwrsio â’r athro. Cyplyswch hyn gyda’r ffaith nad yw rhai yn debygol o ddarllen llyfrau Cymraeg chwaith, na chlywed y Gymraeg ar y stryd, dyw hi ddim yn syndod nad oes digon o amlygiad i’r iaith yn digwydd. O ganlyniad, dydi’r eirfa ddim bob amser yn datblygu digon i ddefnyddio geiriau ‘ffansi’ Cymraeg yn y gwaith ‘sgwennu. Rŵan, don’t get me wrong, nid gweld bai ydw i - i fod yn onest, dwi’n meddwl fod ein disgwyliadau ni o’r plantos yma’n annheg o uchel! Beth allwn ni wneud i helpu, yw ffeindio ambell i ‘dric’ i geisio rhoi boost i’r gronfa eiria’ yn eu pennau. Dipyn o turbo yn yr injan ieithyddol fel petai!



Dyma le mae thesawrws yn gallu helpu. Os nad oeddech chi’n gwybod, mae thesawrws yn wahanol i eiriadur achos nid yw’n cynnig esboniad o ystyr geiriau, ond yn hytrach, mae o’n cynnig geiriau tebyg ond gwahanol. Felly, yn lle ‘hapus’, byddai’r thesawrws yn argymell y geiriau ‘llawen,’ ‘llon,’ ‘siriol’ neu ‘dedwydd.’ Yn sydyn iawn, mae disgybl (neu oedolyn) yn gallu cyfoethogi’r iaith gan ddefnyddio amrywiaeth o eiriau gwahanol. Variety is the spice of life, wedi’r cwbl!


Glywish i rywun unwaith yn dweud fod defnyddio thesawrws yn ‘twyllo’! Wel am beth twp i’w ddweud, a rhywbeth sy’n hollol anghywir! Drwy wneud defnydd o’r thesawrws i ffeindio geiriau gwahanol, mae modd gwella gwaith disgybl gan fod ‘na eiriau mwy uchelgeisiol yn cael eu defnyddio. Nid yn unig mae defnyddio thesawrws yn helpu i uwch-lefelu gwaith, (teacher speak am godi safon) ond mae hefyd yn llawer brafiach marcio gwaith sy’n cynnwys amrywiaeth o eiriau. Gyda’r thesawrws yma, fydd ddim angen defnyddio ‘neis’ mewn brawddeg byth eto!



Mae’r sgil o ddefnyddio thesawrws yn holl bwysig ac yn werth ei ddatblygu. Mae’n annog annibyniaeth yn y disgybl ac yn rhoi iddo’r sgiliau i wella ei waith ei hun, yn hytrach na gofyn i’r athro o hyd. Wrth ddewis geiriau newydd, ‘gwell’, tydi bob un ddim yn gwneud synnwyr bob tro, ond drwy wneud camgymeriadau mae pobl yn dysgu ac yn datblygu.


Mae’r thesawrws yma’n wych achos am ei fod yn lliwgar ac yn child-friendly. Mae’r lluniau (yn ogystal â’i wneud yn fwy difyr) yn rhoi ‘chydig o gliw cyd-destun o ystyr y gair, sy’n lleihau’r tebygrwydd o eiriau’n cael ei dewis yn anghywir. Dyma i chi thesawrws cynhwysfawr, gyda dros 2,000 o eiriau ysbrydoledig i helpu.


Yn wahanol i thesawrws oedolion, diflas, mae hwn wedi cael ei rannu fesul themâu, sy’n beth handi iawn wrth drio ysgrifennu stori neu ryw waith yn y dosbarth. Mae ‘nag adrannau fel teimladau, disgrifio pobl, anifeiliaid, mesur ac archwilio a mwy.

Gall gael ei ddefnyddio fel adnodd sgaffaldio wrth ysgrifennu stori, neu fel canolbwynt tasgau byrion gwella iaith. Yng nghefn y llyfr, ceir syniadau ar gyfer ambell gêm iaith y gellir ei chwarae. Does dim rhaid i ymarferion ieithyddol fod yn ddiflas!


Mae ‘na lawer o botensial i’r llyfr yma ac fe ddylai pob ysgol ystyried buddsoddi mewn copis i bob dosbarth, yn enwedig o flwyddyn 2 i fyny. Mae’n siŵr o fod yn adnodd defnyddiol ar gyfer disgyblion Cymraeg iaith 1af a’r rheiny sy’n dysgu Cymraeg.


 

Dyma restr fach o ambell dasg posib yn deillio o’r thesawrws..

1. Gwella brawddegau e.e. Safodd y lleidr yn y tywyllwch.

Gair gwell – sleifiodd, cripiodd

2. Taflen casglu geiriau

3. Anagramau e.e. Chwaraeon tud. 32 a 33

Beth ydy tufal? Taflu. Oes gair arall?

4. Geiriau croes

Tal – byr

Llyfn - ?

5. Ysgrifennu stori.

Defnyddiwch tud. 34 a 35 fel sgaffald ysgrifennu stori

6. Gêm Chwilio yng nghefn y Thesawrws

7. Cwis Curo’r Cloc

30 eiliad i chwilio am air arall ar dudalen arbennig e.e tud 15. Oes gair arall am gwirion?

8. Disgrifio’r ardal leol yn defnyddio tudalennau 22 a 23

9. Dysgwyr- defnyddiwch dudalennau 4 a 5 fel help llaw i ysgrifennu am eich cartref a’ch teulu. Hunanbortread.



 

I remember getting told off by a teacher in school for using 'nice' as an adjective when describing something. Unfortunately, it’s a word that comes up far too often, and as well as being completely boring, it shows little imagination!



To be fair, sometimes, pupils know what they are trying to say, but often cannot find the vocabulary to express themselves. This is when ‘nice’ and other lacklustre words start popping up. Take this situation as an example - a child who attends a Welsh-medium school and has their lessons in Welsh. However, he speaks English with his friends in class, and English is the language of the yard. After going home (where the child spends a huge percentage of his time) he speaks English with his whole family. In fact, in many schools across Wales, the only time the child actually engages in Welsh conversation is when chatting to the teacher. Add to this, the fact that some are not likely to read Welsh books either, or hear Welsh on the street, it’s not surprising that with such limited exposure, the vocabulary doesn’t always develop enough to start using fancy Welsh words. Now, don't get me wrong, I'm not criticizing here - to be honest, I think our expectations of these kids are unfairly high! What we can do to help however, is find a few 'tricks' to try and give their vocabularies a boost. A bit of turbo in the linguistic engine as it were!


This is where a thesaurus can help. If you didn't know, a thesaurus is different from a dictionary because it does not offer an explanation of words, but rather, it offers similar but different words. Thus, instead of 'happy', the thesaurus would recommend the words 'joyful,' 'calm,’ or 'cheerful.’ Very quickly, a pupil (or adult) is able to enrich their own language by using a variety of different words. This is a quick win I’d say.

I once heard someone say that using a thesaurus is 'cheating'! Well what a silly thing to say, and so utterly wrong! By making use of the thesaurus to find different words, it is possible to improve a pupil's work as more ambitious words are used. Not only does the use of a thesaurus help to up-level work, (teacher speak about raising standards) but it’s also much less taxing to mark work that contains a variety of words. With this thesaurus, you’ll never need to use ‘nice’ in a sentence again!



The skill of using a thesaurus is vital and worth developing. It encourages independence in the pupil and equips them with the skills to improve their own work, rather than being dependent on the teacher. When choosing new and 'better' words, they won’t always get it right, and may choose words that don’t quite fit. But we often learn by making mistakes…



This thesaurus is great because it’s colourful and child-friendly. The pictures (as well as being more engaging) give a context to the meaning of words, which reduces the likelihood of words being chosen incorrectly. We get here a comprehensive thesaurus, with over 2,000 inspirational words to help.


Unlike a boring adult thesaurus, this one’s been divided into themes, which is very handy when trying to write a story. There are sections such as feelings, describing people, animals, measuring, exploring and more.


It can be used as a scaffolding resource for story writing, or could even be the focus of targeted language improvement tasks. At the back of the book, there are ideas for a few language games that can be played. Work doesn’t have to be boring!


There’s a lot of potential with this book and all schools should consider investing in copies for all classes, particularly from year 2 upwards. It will be an useful resource for 1st language pupils and those learning Welsh.


 

Here’s a small list of a few possible tasks stemming from the thesaurus.

1. Improve sentences

2. Word treasure hunt

3. Anagrams

4. Opposite words

5. Writing a story.

Use a page. 34 and 35 as a story-writing scaffold

6. Search Game at the back of the Thesaurus

7. Beating the Clock Quiz

30 seconds to search for another word on a special page e.g. p15. Is there another word for silly?

8. Describe the local area using pages 22 and 23

9. Learners- use pages 4 and 5 as a helping hand to write about your home and family. Self-portrait.

 

Recent Posts

See All

Comments

Rated 0 out of 5 stars.
No ratings yet

Add a rating
bottom of page