*For English review, see language toggle button on top of webpage*
Oed darllen: 6/7+
Oed diddordeb: 5-8
♥Cymraeg gwreiddiol♥
Wel, mi fuon ni i ffwrdd o’r theatr am amser hir iawn yn do? A phwy sydd wedi bod yno’n aros amdanon ni ond Tomos Llygoden. Mae Tomos yn ôl gyda stori newydd ac mae ganddo gymeriad newydd i’w gyflwyno inni – Feiolet Pot Blodau.
Mae sawl dynes lanhau yn gweithio yn y theatr, ond ffefryn y llygod ydi Feiolet Pot Blodau, ac mae hi’n hawdd iawn gweld pam. Mae hi’n annwyl a charedig a chydig bach yn od. Mae hi’n gwneud pethau chydig bach yn od, ac yn gwisgo pethau braidd yn od. A dyna sut y cafodd hi ei henw – am ei bod hi’n gwisgo pot blodau ar ei phen yn lle het!
Ond y prif reswm pam fod y llygod yn ei hoffi, ydi am ei bod hi’n ddynes lanhau wael ofnadwy, sy’n golygu fod yna fwy na digon o friwsion a phethau da ar ôl yn y theatr i’r llygod eu mwynhau. Ond er bod y llygod yn hoffi hyn, tydi Mr Meilir, y rheolwr, ddim yn hoffi hyn o gwbl, ac mae dyfodol Feiolet fel glanhawraig yn y theatr mewn perygl.
Tybed a fydd Tomos a’i ffrindiau’n gallu darganfod pam fod Feiolet yn ddynes lanhau mor wael? A tybed fyddan nhw’n gallu cadw ei swydd hi yn y theatr?
Dyma stori olaf y gyfres hon, ond mae hi’n stori arall ddifyr a doniol, sy’n addas ar gyfer plant 5-8 oed. Mae Tomos a’i ffrindiau’n gymeriadau mor hoffus ac annwyl ac mae hi’n hwyl dilyn eu hanturiaethau yn y theatr.
Yn ychwanegu at greu byd hudolus y theatr a’r cymeriadau hoffus mae darluniau hyfryd Leri Tecwyn wrth gwrs. Mae hi’n defnyddio lliwiau tywyll a chynnes fel coch, gwyrdd a brown sy’n cyfleu’r teimlad o fod mewn theatr grand draddodiadol i’r dim. A dw i’n siŵr ei bod hi wedi cael hwyl yn darlunio Feiolet! Dw i’n ffan mawr o’i sanau hi fy hun.
Dw i’n tueddu i feddwl bod gormod o ysgrifen ar rai tudalennau o gymharu ag eraill, a bod hyn braidd yn anghyson. Efallai y byddai'n ormod i rai plant ifanc fod yn darllen y llyfr heb gymorth, ond eto, gall fod yn ddefnyddiol ar gyfer darllenwyr annibynnol newydd. Dw i’n gwybod y byswn i wedi bod wrth fy modd yn gwrando ar y stori hon pan oeddwn i’n blentyn.
Am stori ysgafn a hwyliog, am gymeriadau annwyl ac agos atoch chi, ewch i chwilio am gopi o Tomos Llygoden y Theatr a Feiolet Pot Blodau! A chofiwch fynd i chwilota am straeon eraill y gyfres hefyd- mae digon o ddewis!
留言