*Scroll down for English*
Ail antur gyda'r lygoden fach ciwt!
Second adventure with our little mousey friend!
Genre: ffuglen / fiction
Gwerth addysgiadol/educational value: ◉◉◎◎◎
Negeseuon positif/positive messages: ◉◉◉◉◎
Themau trist,anodd/upsetting, tough themes: ◎◎◎◎◎
Trais, ofn/violence, scary: ◎◎◎◎◎
Iaith gref/language: ◎◎◎◎◎
Rhyw/sex: ◎◎◎◎◎
Hiwmor/humour: ◉◉◉◎◎
Her darllen/reading difficulty:: ◉◉◉◎◎
Dyfarniad/Rating: ★★★☆☆
Dyma’r ail yng nghyfres Tomos Llygoden y Theatr sy’n mynd a ni ar antur gyda’r llygoden fach wrth iddo orfod achub y dydd unwaith eto. Dwi’n hoff iawn o waith arlunio hardd Leri Tecwyn sy’n dod a byd bach Tomos yn fyw! Er bod maint y llyfr yn fach (sy’n reit handi a dweud y gwir) yn sicr mae ‘na ddigon o stori i’n diddanu- mwy nac oni’n ei ddisgwyl!
Mae actor enwog yn dod i’r theatr ac mae Tomos wedi gwirioni’n lan i gael cyfarfod ei arwr! Y broblem yw, mae Trystan Gwynfyd ap Rhych (trïwch ddweud hwnna drosodd a throsodd yn gyflym!) yn ofn llygod! Mae Tomos bron a marw eisiau ei gyfarfod, ond well iddo beidio â chyflwyno ei hun - fydd ‘na fawr o groeso iddo.
Wyddoch chi be? Mae gan Trystan Gwynfyd gyfrinach enfawr.... mae ei wallt mawr adnabyddus yn ffug - mae o’n foel fel wy! Ar ôl damwain anffodus sy’n achosi i’r wig hedfan i ffwrdd, dim ond Tomos ein llygoden fach arbennig fydd yn gallu achub y dydd cyn i’r actor gamu ar y llwyfan o flaen cynulleidfa fawr. Mae’r ffordd y mae o’n datrys y broblem yn reit ddyfeisgar, chware teg! Mi fydd y plantos yn morio chwerthin pan fydd y ‘gwallt’ yn hedfan i ffwrdd, ac mae’n siŵr o roi gwen ar wyneb unrhyw oedolyn.
Sgwn i os fydd Trystan Gwynfyd a Tomos yn gallu bod yn ffrindiau?
Dwi’n hoff iawn o’r straeon yma gan eu bod nhw’n cadw pethau’n ddiddorol drwy symud ar gyflymder addas, ac mae’r cymeriad bach hoffus jest yn gwneud i chi deimlo’n gynnes tu fewn! Dwi isio Tomos Llygoden fach fy hun yn fy nhŷ rŵan! Mae neges bwysig i garu eich hun fel ac yr ydych hefyd.
Dyma lyfr sy’n addas i blant ifanc ddarllen gyda rhiant, a gan fod eithaf tipyn o ysgrifen ar y tudalennau, byddai’n rhoi digon o her i ddarllenwr annibynnol newydd. Mae ‘na iaith ogleddol a deheuol hefyd sy’n gwneud y llyfr yn berffaith i blant Cymru gyfan!
Dwi’n gwybod bydd ‘na fwy o anturiaethau yn y gyfres yma...
This is the second in the Tomos Llygoden y Theatr series which takes us on another adventure with the friendly, helpful little mouse he’s called upon to save the day yet again. I'm really fond of the beautiful artwork contained in this book which brings Tomos’s small world alive! Although the book is small in size, (which is quite handy actually) it certainly contains enough actual story to keep us entertained- more than you’d expect from this sort of book really.
A renowned actor is coming to the theatre and Tomos is thrilled with the news that his all-time hero is on his way. The problem is, Trystan Gwynfyd ap Rhych (yeah – try saying that tongue twister over and over quickly!) is absolutely terrified of mice! Despite Tomos barely being able to contain himself with excitement, he’d better not introduce himself because I doubt he’ll be welcome!
Did you know? Our famous actor has a huuuge secret? His well-known, trademark hair is all fake- he’s as bald as an egg! After an unfortunate mishap that causes the wig to come flying off, only Tomos can save the day before his hero walks out live on stage in front of a packed-out audience. The way he solves the problem is quite ingenious, fair play! The little ones will surely be laughing when the hair flies off, and I'm sure it will put a smile on any adult reader’s face!
I wonder if Trystan Gwynfyd and Tomos can become friends?
I love these stories because they keep things interesting by moving along at a suitable pace, and our loveable little character just makes you feel warm inside! I want a little Tomos Llygoden in my own house now! There’s an important message at then end too about loving and accepting yourself as you are.
This is a suitable book for young children to read with a parent, and as it has quite a bit of text on some pages, it would provide enough challenge, yet be manageable for new independent readers. The book contains Northern and Southern dialect too which makes it the perfect book for children from across Wales.
I know there will be more adventures in this series...
Opmerkingen