top of page
Writer's picturesônamlyfra

Un Noson - Llio Elain Maddocks



(argymhelliad) oed darllen: 13+

(argymhelliad) oed diddordeb: 14-25+


Disgrifiad Gwales

Nofel hwyliog ar gyfer darllenwyr anfoddog ac unrhyw un sy'n hoff o stori ysgafn a chyfoes! Mae'r stori'n dilyn dau brif gymeriad, Jacob a Cadi, wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer priodas ffrind cyffredin i'r ddau. Mae'n dechrau 7 diwrnod cyn y briodas ac yn dilyn y paratoadau hyd at y diwrnod ei hun.


 

Adolygiad gan Gareth William Jones



Cyrhaeddodd nofel gyntaf Llio Elain Maddocks, Twll yn y Niwl, restr fer Llyfr y flwyddyn 2021, felly cyn troi at y nofel hon ry'ch chi’n gwybod eich bod yng nghwmni awdur medrus.


Mae’r stori, sy’n gafael ynoch chi o’r dechrau’n deg, yn cychwyn saith diwrnod cyn priodas Rhys. Mae ei gyfaill ers dyddiau'i blentyndod, sef Jacob, yn rhedeg hen garej ei dad yn Ffrainc ers ei fod yn ddeunaw oed ac nid yw wedi dychwelyd i Gymru ers blynyddoedd – yn wir, nid yw'n gweld eisiau’r lle chwaith. Ond pan ddaw gwahoddiad i briodas Rhys, mae’n rhaid derbyn a throi tuag adre.


Wrth siopa gyda’i fam am anrheg briodas daw Jacob ar draws y gyfreithwraig Cadi sy’n chwilio am ffrog i fynd i’r un briodas. Dydyn nhw erioed wedi cyfarfod o’r blaen. Jacob a Cadi sy’n dweud y stori, sy’n arddull berffaith i symud y stori yn ei blaen yn llyfn a chyflym. Mae Cadi druan newydd gael ei dympio gan Tom sy’n gweithio yn yr un swyddfa gyfreithiol â hi, ac ef yw gwas priodas Rhys. Mae Cadi’n benderfynol o wneud Tom yn genfigennus ar ddydd y briodas ac efallai ei ennill yn ôl. Pan wêl Cadi Jacob, ‘ei ysgwyddau llydan bron â chyffwrdd y ddwy wal’, a deall ei fod yn mynd i’r un briodas, mae hi’n taro ar gynllun fydd yn sicr o wneud Tom yn genfigennus, yn enwedig petai’n gwisgo’r ‘ffrog goch dynn nad oedd yn gadael lot i’r dychymyg’ y mae hi ar fin ei phrynu.



Wedi iddo gyfarfod â Tom, y ‘lembo’ snobyddlyd drannoeth, mae Jacob yn cytuno i helpu Cadi gyda’i chynllun. Mae’n cytuno i esgus bod yn gariad iddi am un diwrnod yn unig, sef diwrnod y briodas. Ond a yw ei benderfyniad yn un doeth? Yn ôl cyfaddefiad Cadi ei hunan mae’r cynllun yn llawn problemau ac mae hi’n gwybod ei bod yn chwarae â thân. Ar ben hynny, mae ei ffrind gorau Sioned yn credu ei bod yn gwneud camgymeriad.


Ddwy noson cyn y briodas, dan olau’r sêr, mae’r cynllun yn cymhlethu fwy fyth, ac yn ystod yr un noson dyngedfennol honno, sef noson y briodas, mae Cadi’n gwbl bendant ei bod wedi gwneud llanast o bethau. Mae hi’n sicr yn creu argyfwng ac er y byddwch, o bosib, yn credu eich bod wedi rhagdybio’r diweddglo, mae ambell dro trwstan yn eich aros. Mae hon yn nofel berffaith i’w darllen ar lan y môr ger Rochefort yn Ffrainc ... a gwydriad o win coch yn gwmni.


Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru


 

Gwasg: Lolfa

Cyhoeddwyd: 2022

Fformat: Clawr Meddal

Cyfres: Stori Sydyn

Pris: £1.00


 

Recent Posts

See All

Comments

Rated 0 out of 5 stars.
No ratings yet

Add a rating
bottom of page