top of page
Writer's picturesônamlyfra

Y Bwbach Bach Unig - Graham Howells

*Scroll down for English & comments*


Antur gyda'r Bwbach ryfeddol!

House-hunting adventure with the Bwbach!


Gwasg/Publisher: Gomer

ISBN: 978-1-78562-282-3

Cyhoeddwyd/Published: 2018

Addasiad/Adaptation: Angharad Elen


Level her/challenge level: ❖ ❖


Lluniau gwych, iaith mymryn yn heriol i ddarllenwyr ifanc, iawn os oedolyn yn darllen.

Full of fantastic pictures but language a little on challenging side - ok if an adult reads.

 

Er ei fod yn addasiad, mae hwn yn llyfr Cymraeg ei naws. Mae llawer o sôn am hud a lledrith ac am gymeriadau chwedlonol, fel Bwbachod a Brenin y Tylwyth Teg, Gwyn ap Nudd.



Fel dwi’n deall, roedd bwbachod yn greaduriaid hud oedd yn byw gyda theuluoedd ac yn gwneud troeon da neu waith tŷ am fowlen o hufen. Er eu bod nhw’n rhyw fath o gremlins, mae’r creaduriaid Cymraeg yma’n ddireidus a chyfeillgar yn hytrach na’n broblem.


Mae’r bwbach wedi bod yn byw mewn bwthyn ers amser hir, ond does dim teulu’n byw yno bellach ac mae’r lle wedi mynd yn adfail. Un diwrnod mae’r bwbach yn gweld dynion ac yn gobeithio bydd teulu newydd yn dod yno. Yn anffodus, er gwaethaf protestiadau’r bwbach druan, mae’r dynion yn dymchwel ei fwthyn ac yn ei gario ymaith. Beth arall mae bwbach i fod i wneud pan mae ei dŷ’n cael ei ddatgysylltu a’i symud o’i gwmpas? Wel, mynd i chwilio amdano wrth gwrs! Druan ohono…



Tra mae’r Bwbach yn ddigartref, mae Brenin y Tylwyth Teg, Gwyn ap Nudd, yn dweud wrth y bwbach fod rhaid iddo fynd i chwilio am atebion drwy fynd ar daith at dai Ffagan yng Nghaer Didus (swnio’n gyfarwydd?)

Yn y llyfr, da ni’n mynd ar antur gyda’r Bwbach i Gaer Didus, gan gyfarfod Dŵr-lamwr, llwynog a barcud ar y ffordd! Tipyn o antur! Yn ystod y siwrne, mae’r Bwbach yn cyfarfod teulu modern - sgwn i os all y Bwbach ryddhau’r teulu o’r hudlath sy’n eu caethiwo i ffenestri trydanol sgwâr? (eto, swnio’n gyfarwydd?)



Ar ddiwedd ei daith hir, beth fydd yn disgwyl amdano yn Nhai Ffagan?

Dwi’n siŵr y gwnewch chi gytuno, mae lluniau Graham Howells yn anhygoel. Maen nhw wirioneddol yn gwneud y stori yma, ac yn dod a’r hud yn fyw. Mae ganddo ddawn wrth greu cymeriadau hudol a rhyfeddol, yn enwedig bwystfilod afiach fel y dŵr-lamwr. Swni’n gallu prynu’r llyfr yma jyst am a darluniadau - bonws fod 'na stori dda ynddi hefyd.


O edrych ar faint y llyfr (weddol fyr) a’r lluniau lliwgar mae’n hawdd meddwl fod y stori’n mynd i fod yn andros o hawdd, ond rhaid i mi gyfaddef, roedd yr iaith yn fwy heriol nac oeddwn yn disgwyl. Mae hyn yn beth da, yn sicr mae yna eirfa gyfoethog a phatrymau graenus ond efallai fod y rhain braidd yn rhy anodd i ddarllenwyr ifanc neu ddysgwyr. Dwi’n hoffi’r ffordd y mae’r awdur wedi cynnwys Amgueddfa Sain Ffagan yn y llyfr, a gobeithio y bydd y stori’n sbarduno plant i achwyn ar eu rhieni i fynd a nhw yno i weld Bwthyn Llainfadyn, sef y bwthyn mae’r stori wedi ei seilio arno.


Oes 'na Fwbach yn byw yn eich tŷ chi?


 

Although an adaptation of 'The Lonely Bwbach', this is a Welsh-themed book with much talk of magic and of mythical characters, such as legendary King of the ‘Tylwyth Teg’ , Gwyn ap Nudd.


As I understand, Bwbachs were magical creatures who lived with families and did good deeds and housework in return for a bowl of cream. Although they are some sort of gremlins, these Welsh creatures are mischievous and friendly rather than problematic.


The Bwbach has been living in a cottage for a long time, but no one lives there anymore and the place has become ruined. One day the Bwbach sees men near the cottage and hopes that a new family will come there. Unfortunately, despite his protests, the men demolish his cottage and carry it away, stone by stone. What else is a poor Bwbach to do when his house is dismantled and taken away? Well, go and look for it of course!

Whilst homeless, the king of the fairies, Gwyn ap Nudd appears to the Bwbach and tells him that he must go and look for answers by going on a journey to the tai Ffagan in Caer Didus (sound familiar?)



We then go on adventure with the Bwbach to Caer Didus, meeting magical and frightening creatures along the way. During the journey, the Bwbach meets a modern day family- will he be able to break the spell that has them hooked on strange square screens that run on electricity? (again, sound familiar?)


At the end of his long journey, what will he be waiting for him at St Fagans?

I am sure you will agree, Graham Howells's drawings are incredible. They really make the story here, as the magic comes alive. He has a talent in creating magical, amazing characters, especially scary monsters like the Dŵr-Lamwr. I could buy this book just for the illustrations- it’s a bonus that it's also a good story.



Looking at the size of the (fairly short) book and the colourful pictures it is easy to think that the story is going to be easy, but I must admit, the language was more challenging than I expected. This is a good thing; there’s certainly a rich vocabulary but these may be rather too difficult for young readers or learners. I like the way the author has included the St Fagans Museum in the book, and I hope the story will inspire the children to nag their parents to take them there to see Llainfadyn Cottage, on which the story is based.


Is there a Bwbach living in your house?

50 views0 comments

Recent Posts

See All

Comments

Rated 0 out of 5 stars.
No ratings yet

Add a rating
bottom of page