top of page
Writer's picturesônamlyfra

Y Bysgodes - Cymdeithas Affrica Gogledd Cymru a Casia Wiliam



(awgrym) oed darllen: 7+

(awgrym) oed diddordeb: 5-11

Lluniau: Jac Jones

 


‘Da ni gyd yn gwybod beth sy’n digwydd yn stori’r tri mochyn bach, ac mae Jac a’r Goeden Ffa yn hen gyfarwydd i ni. Straeon adnabyddus ydi'r rhain sydd wedi dod drosodd o Loegr, ond sydd bellach wedi cael eu mabwysiadu gennym. Wrth gwrs, mae gennym ni yng Nghymru ddigonedd o straeon a chwedlau ein hunain - Cantre'r Gwaelod, Stori Gelert, Dreigiau Dinas Emrys, Stori Branwen i enwi ond rhai! I mi, mae Cymru wastad wedi cael ei chysylltu hefo gwlad y gân, chwedlau a hud a lledrith.


Ond mi fedra i feddwl am un chwedl fyddwch chi 'rioed wedi ei chlywed o’r blaen – Y Bysgodes. Mae hon yn wahanol iawn i unrhyw stori tylwyth teg neu chwedl fyddwch chi wedi ei glywed o’r blaen -stori am  bysgotwr barus, tywysoges dlos, hen wrach a neidr slei.


Ffrwyth llafur prosiect arloesol yw’r stori, a hwnnw rhwng Cymru â Chymdeithas Affrica Gogledd Cymru, fel rhan o Gynllun BLAS, Pontio Bangor.  Nod y prosiect yw cryfhau cysylltiadau rhwng Cymru ac Affrica, yn ogystal â helpu i ddod a chymunedau at ei gilydd.



Dwi wrth fy modd gweld llyfrau sydd â blas rhyngwladol fel hyn, achos mae’r cyfuniad o ddawn dweud stori o Gymru ac Affrica yn dod at ei gilydd i greu rhywbeth sbeshal. Mae’r stori sy’n deillio yn rhyw fusion o draddodiadau Cymraeg ac Affricanaidd, yn asio’n berffaith i greu chwedl sydd ag elfennau cyfarwydd - ond gwahanol -iawn i'r arfer.



Pwy yw awdur y llyfr? Wel, yn ôl Casia Wiliam, nid hi yw’r awdur, ond yr holl deuluoedd ddaeth at ei gilydd i siarad am straeon a chwedlau sy'n gyfrifol. Dim ond gwehyddu’r cwbl at ei gilydd wnaeth hi. (modest iawn, Casia!) Mae’r cyfan yn deillio o syniadau’r bobl ifanc.


Cafodd y llyfr ei arlunio gan Dduw ymysg arlunio llyfrau plant, Jac Jones, ac mae ei luniau wedi dod a hud a lledrith y stori yn fyw, yn ei ffordd unigryw a hollol adnabyddus ef! Cofiwch edrych ar y tapestri lliwgar ar hyd y cloriau sy’n arddangos gwaith celf pawb fu’n rhan o’r prosiect.



Ffuglen ddadlennol yw’r stori yn ôl y clawr (dwi dal ddim cweit yn siŵr be di hynny), ac mae’n defnyddio ysbrydoliaeth o hen straeon Ghanaidd, Nigeraidd a Chymreig i greu rhywbeth hollol newydd. Chwa o awyr iach i ddweud y gwir.



Mae tipyn o destun yn y stori, felly mae’n debyg y byddai tu hwnt i ddarllenwyr cynnar/ifanc iawn, ond gall fod yn stori i'w fwynhau â rhiant amser gwely. Gorau oll os yw’r llyfr yn gweithio fel sbardun i fynd i greu mwy o straeon newydd a difyr. Mae’n hen bryd i ni gael rhai newydd i'w hadrodd, i ychwanegu at y clasuron, sy’n adlewyrchu’r Gymru fodern sydd ohoni.


Weithiau, mae’r stori yn gwibio o un lle i'r llall yn chwit chwat, yn botas o syniadau ac elfennau gwahanol. Oherwydd yr holl syniadau, ar brydiau, mae’r llyfr yn teimlo fel un sydd wedi cael ei gyd-sgwennu gan bwyllgor - ac mae hynny’n wir! Mi gafodd ei gyd-sgwennu gan lot o bobl yn cyfrannu eu syniadau, felly dim rhyfedd ei fod o’n teimlo’n brysur. Fy nghyngor i yw just go with it - ddewch chi ddim ar draws chwedl tebyg i hon. Gobeithio bydd mwy o brosiectau rhyngwladol ar y gweill i bontio cymunedau o bedwar ban byd, ond yn bwysicach na hynny - i adrodd stori dda.

 



Dyma’r press statement ar gyfer y prosiect o wefan y Cyngor Llyfrau os ‘da chi eisiau dysgu mwy.

 

Dyma wybodaeth am Ganolfan Celfyddydau Pontio, Bangor:


Tudalen Facebook BLAS:


MAE'R LLYFR HEFYD AR GAEL YN SAESNEG:

 



 

Cyhoeddwr: Y Lolfa

Cyhoeddwyd: 2023

Pris: £5.99

 

Recent Posts

See All

Comments

Rated 0 out of 5 stars.
No ratings yet

Add a rating
bottom of page