top of page
Writer's picturesônamlyfra

Y Ddinas Uchel - Huw Aaron

Updated: Mar 27, 2020

*Scroll down for English & comments*


Mae'n iawn i freuddwydio am rywbeth gwell...

Its ok to dream for something better...


Gwerth addysgiadol/educational value: ◉◉◉◉◎ Negeseuon positif/positive messages: ◉◉◉◉◎ Themau trist,anodd/upsetting,tough themes: ◎◎◎◎◎ Trais, ofn/violence, scary: ◎◎◎◎◎ Iaith gref/language: ◎◎◎◎◎ Rhyw/sex: ◎◎◎◎◎ Her darllen/reading difficulty:: ◉◎◎◎◎ Dyfarniad/verdict: ★ ★ ★

 

Adolgiad gan Morgan Dafydd


Dyma lyfr lluniau newydd gan yr arlunydd/cartwnydd talentog, Huw Aaron. Rydym ni’n gyfarwydd iawn gyda’i luniau a’i dwdls mewn nifer o lyfrau poblogaidd a’r cylchgrawn Mellten. Y tro hwn, Huw ei hun sydd wedi bod wrthi’n ysgrifennu’r stori yn ogystal â pheintio’r lluniau! Dywedodd Huw fod y stori wedi bod yn ffrwtian yng nghefn ei ben ers blynyddoedd - wel o’r diwedd, dyma hi!



Stori yw hon am ferch fach o’r enw Petra, sy’n byw mewn dinas yn llawn pobl brysur iawn, iawn. Mae’r gweithwyr yn treulio drwy’r dydd, pob dydd yn adeiladu tyrrau uchel iawn sy’n ymestyn at yr awyr. Yn wir, mae’r gweithwyr yn fy atgoffa o forgrug gwyn, sy’n treulio eu bywydau’n adeiladu tomenni mawr.

Mae Petra druan wedi diflasu gyda’r gwaith beunyddiol o adeiladu tyrrau. A dweud y gwir, mae hi’n hollol fed-up! Dechreua Petra gwestiynu’r drefn wrth iddi bendroni’r cwestiwn mawr athronyddol: oes 'na fwy i fywyd?



Er bod 'na oedolion pwysig yn ei siarsio i ‘dyfu fyny’ a ‘derbyn y drefn,’ yn ei chalon tydi hi ddim yn gallu rhoi’r gorau i freuddwydio.

Un diwrnod, pan ddaw dynes i lawr o’r cymylau mewn balŵn aer poeth fe ânt ar antur dros y byd, gan weld yr holl ryfeddodau sy’n bodoli. Tybed a fydd Petra’n gallu perswadio gweddill trigolion y ddinas fod mwy i fywyd na adeiladu tyrrau?


Mae lluniau dyfrlliw Huw Aaron yn hyfryd o liwgar ac fe geir yma stori annwyl iawn gyda neges glir i blant ifanc (ac oedolion gwaetha’r modd!) fod hi’n gwbl dderbyniol i gwestiynu’r drefn. Mae’r llyfr yn cyfleu chwilfrydedd a rhyfeddod plant gyda’r byd o’u cwmpas. Bydd plant ac oedolion yn deall y neges fod rhyfeddodau lu i’w gweld yn y byd, ond i chi fentro mynd i chwilio.



Ceir trosiad yn y llyfr sy’n dangos sut mae bywyd modern wedi’n cyflyru i frysio o un lle i’r llall, gan weithio’n ddi-stop, heb weithiau gymryd amser i werthfawrogi ein byd yn llawn. Ewch allan i weld y byd a mwynhau profiadau newydd -mae bywyd yn rhy fyr!


Adolygiad oddi ai www.gwales.com, trwy ganiatad Cyngor Llyfrau Cymru.



 

Review by Morgan Dafydd


This is a new picture book by talented artist/cartoonist Huw Aaron. We are very familiar with his drawings and doodles in a number of popular books and the magazine Mellten. On this occasion, Huw himself has taken care of writing the story as well as painting the pictures! Huw said that the story had been simmering in the back of his mind for years- well finally, here it is!



This is a story about a little girl called Petra, who lives in a city full of very busy people. The workers spend all day, every day building very high towers that stretch to the sky. In fact, the workers remind me of termites, who spend their lives building large mounds.


Poor Petra is bored with the daily grind of constructing towers. In fact, she is absolutely fed up! Petra begins to question the regime as she ponders the big philosophical question: Is there more to life?

Even though some very important people order her to 'grow up' and ‘get on with it’, in her heart she never stops dreaming.


One day, when a lady comes down from the clouds in a hot air balloon, they go on an adventure all over the world, seeing all the wonders that exist. I wonder if Petra will be able to persuade the rest of the city's inhabitants that there is more to life than building towers?



Huw Aaron’s watercolour paintings are beautifully colourful and we get a very affectionate story with a clear message to young children (as well as adults!) that it’s perfectly acceptable to question things. The book conveys children's natural curiosity and wonder about the world around them. Children and adults will understand the message that there are many wonders and opportunities out there to be seen and enjoyed, if you take the chance!


There’s a metaphor in the book that shows how modern life has conditioned us to hurry from one place to another, working non-stop, without taking time to fully appreciate our world. Go out to see the world and enjoy new experiences- life is too short!

Review from www.gwales.com, by permission of Welsh Books Council.



 

Gwasg/publisher: Atebol

Pris/price: £6.99

Cyhoeddwyd/released: 2019


103 views0 comments

Comments

Rated 0 out of 5 stars.
No ratings yet

Add a rating
bottom of page