*For English review, see language toggle switch on webpage*
Mae'n iawn i freuddwydio am rywbeth gwell...
Its ok to dream for something better...
Negeseuon positif: ◉◉◉◉◎
Themau trist,anodd: ◎◎◎◎◎
Trais, ofn: ◎◎◎◎◎
Iaith gref: ◎◎◎◎◎
Rhyw: ◎◎◎◎◎
Oed darllen: 5+
Oed diddordeb: 3-7
Dyma lyfr lluniau gan yr arlunydd/cartwnydd talentog, Huw Aaron. Rydym ni’n gyfarwydd iawn gyda’i luniau a’i dwdls mewn nifer o lyfrau poblogaidd a’r cylchgrawn Mellten. Y tro hwn, Huw ei hun sydd wedi bod wrthi’n ysgrifennu’r stori yn ogystal â pheintio’r lluniau! Dywedodd Huw fod y stori wedi bod yn ffrwtian yng nghefn ei ben ers blynyddoedd - wel o’r diwedd, dyma hi!
Stori yw hon am ferch fach o’r enw Petra, sy’n byw mewn dinas yn llawn pobl brysur iawn, iawn. Mae’r gweithwyr yn treulio drwy’r dydd, pob dydd yn adeiladu tyrrau uchel iawn sy’n ymestyn at yr awyr. Yn wir, mae’r gweithwyr yn fy atgoffa o forgrug gwyn, sy’n treulio eu bywydau’n adeiladu tomenni mawr.
Mae Petra druan wedi diflasu gyda’r gwaith beunyddiol o adeiladu tyrrau. A dweud y gwir, mae hi’n hollol fed-up! Dechreua Petra gwestiynu’r drefn wrth iddi bendroni’r cwestiwn mawr athronyddol: oes 'na fwy i fywyd? Er bod 'na oedolion pwysig yn ei siarsio i ‘dyfu fyny’ a ‘derbyn y drefn,’ yn ei chalon tydi hi ddim yn gallu rhoi’r gorau i freuddwydio.
Un diwrnod, pan ddaw dynes i lawr o’r cymylau mewn balŵn aer poeth fe ânt ar antur dros y byd, gan weld yr holl ryfeddodau sy’n bodoli. Tybed a fydd Petra’n gallu perswadio gweddill trigolion y ddinas fod mwy i fywyd na adeiladu tyrrau?
Mae lluniau dyfrlliw Huw Aaron yn hyfryd o liwgar ac fe geir yma stori annwyl iawn gyda neges glir i blant ifanc (ac oedolion gwaetha’r modd!) fod hi’n gwbl dderbyniol i gwestiynu’r drefn. Mae’r llyfr yn cyfleu chwilfrydedd a rhyfeddod plant gyda’r byd o’u cwmpas. Bydd plant ac oedolion yn deall y neges fod rhyfeddodau lu i’w gweld yn y byd, ond i chi fentro mynd i chwilio.
Ceir trosiad yn y llyfr sy’n dangos sut mae bywyd modern wedi’n cyflyru i frysio o un lle i’r llall, gan weithio’n ddi-stop, heb weithiau gymryd amser i werthfawrogi ein byd yn llawn. Ewch allan i weld y byd a mwynhau profiadau newydd -mae bywyd yn rhy fyr!
Dwi'n falch bod y llyfr bellach ar gael yn ddwyieithog, fel bod mwy o bobl yn gallu ei fwynhau!
Adolygiad oddi ai www.gwales.com, trwy ganiatad Cyngor Llyfrau Cymru.
Comments