top of page

Y Dyn Dweud Drefn - Lleucu Fflur Lynch

Writer's picture: sônamlyfrasônamlyfra

*Scroll down for English*


Mae o'n ei ôl - ac yn dal i ddwrdio!

He's back - and he's still cranky!


♥Llyfr y Mis Ionawr 2021 ♥

♥Book of the Month January 2021 ♥

Negeseuon positif/positive messages: ◉◉◉◎◎

Themau trist,anodd/upsetting, tough themes: ◎◎◎◎◎

Trais, ofn/violence, scary: ◎◎◎◎◎

Iaith gref/language: ◎◎◎◎◎

Rhyw/sex: ◎◎◎◎◎

Hiwmor/humour: ◉◉◉◉◎

Her darllen/reading difficulty:: ◉◉◉◎◎


Lluniau/illustrations: Gwen Millward



Dwi wirioneddol yn licio’r gyfres fach light-hearted yma. Mi oeddwn i’n falch o weld fod ’na ail lyfr ar y gweill a bod Lleucu a Gwen wedi bod yn brysur yn sgwennu ac yn darlunio er mwyn creu Y Dyn Dweud Drefn Yn Yr Ardd. Mae’r llyfr wedi cychwyn 2021 mewn steil ac wedi’i ddewis fel Llyfr y Mis i blant ar gyfer mis Ionawr.

Mae’r llyfr pocket-sized yn faint bach handi ar gyfer mynd â fo efo chi, a gyda 68 o dudalennau, mae o’n llyfr reit sylweddol, felly mi ydach chi’n cael value for money yn sicr.


Wrth ddarllen am y Dyn Dweud Drefn, caf fy atgoffa o gymeriad surbwch tebyg o lyfr cerddi o’r gyfres Llyfrau Lloerig, Briwsion yn y Clustiau – llyfr roeddwn i’n mwynhau ei ddarllen pan oeddwn i’n yr ysgol gynradd. Yn debyg iawn i’r Dyn Dweud Drefn, roedd Mistar Byrbwyll hefyd yn cael trafferth gyda’i dymer weithiau!


allan o Briwsion yn y Clustiau (gol. Myrddin ap Dafydd) Gwasg Carreg Gwalch

Yndi, mae’r Dyn Dweud Drefn yn ei ôl, ac er ei fod o reit fodlon ei fyd ar ddiwedd y llyfr cyntaf, mae’n amlwg fod rhywbeth wedi cynhyrfu’r dyfroedd – mae o’n dwrdio’n dragwyddol unwaith eto!


Tro yma, mae o wedi mentro i’r ardd. Does yna neb arall o gwbl yn cael mynd i’r ardd, dim ond y Dyn Dweud Drefn. Dydi o ddim yn cael llawer o lwc yn yr ardd a dweud y gwir, ac ar ôl clywed yr holl ddwrdio, daw ei gyfaill ffyddlon a hynod hoffus - Ci Bach – i weld beth ydi achos yr holl weiddi. Chware teg i Ci Bach, mae o’n profi ei fod yn un handi iawn i’w gael yn yr ardd – ac mae o’n gallach na’i berchennog yn aml iawn! Ond er gwaetha’r ffaith fod y Ci Bach yn helpu i ddyfrio’r blodau, cael ffrae mae o gan y Dyn Dweud Drefn, a chael ei hel yn ôl i’r tŷ. Bechod. Jest sbïwch ar y llygaid mawr trist ’na ar dudalen 26!


puppy dog eyes go iawn! N'aaaw...

Mae tantro’r Dyn Dweud Drefn yn ddoniol iawn, yn enwedig am mai fo blannodd y blodau’n rhy bell, fo benderfynodd blannu tatws, a fo aeth i gysgu o dan goeden afalau. Mi welwch chi hynny’n aml efo pobl flin – does yna fyth fai arnyn nhw!

Mae ’na dipyn o’r Dyn Dweud Drefn ynon ni gyd weithia, ’does?


Unwaith eto, mae lluniau Gwen Millward yn rhai hoffus, annwyl ac yn hynod o ddel. Sbïwch lliwgar ydi’r blodau! Mae’r llyfr hefyd wedi’i osod yn dda iawn – mae’r testun wedi’i rannu’n gyfartal, sy’n golygu nad oes gormod o sgwennu ar y tudalennau.


bit fod fy ngardd i ddim yn edrych felna!!

Ar ôl diwrnod hir o ddweud y drefn (ew, mae bod yn flin yn ymdrech dydi) mae o’n pendwmpian yn ei gadair gyda gwên ar ei wyneb o’r diwedd – ond am ba hyd tybed?


 

Since it first appeared last year, I’ve really taken to this light-hearted series. I was pleased to see a second book and that Lleucu and Gwen had been busy writing and drawing to produce Y Dyn Dweud Drefn yn yr Ardd [In the Garden]. It started 2021 in style and has already been chosen as the Book Council For Wales’s Children’s Book of the Month for January.


The pocket-sized book is a small handy size for taking it with you, and at 68 pages long, it's a significant little thing, so I certainly think you get value for money.


Whilst reading about the Dyn Dweud Drefn, I am reminded of another surly character from a collection of funny poems I used to like when I was in school – Briwsion yn y Clustiau. Mistar Byrbwyll, a similar character, also had some trouble with his temper!

Yup, he’s back, and although we left him smiling away in the last book, obviously the magic’s worn off and he’s back to his old ways… telling people off as usual.


This time though, he’s ventured into the garden. No one else is allowed into the garden, apart from him. He’s not having much luck there to be honest, and upon hearing the commotion, his loyal and extremely likeable friend - Ci Bach - comes to see what the fuss is about. Fair play to Ci Bach for lending a hand – he’s very handy in the garden and quite often makes better calls than his owner! But despite all his efforts, eventually he is told off yet again and sent back to the house… poor thing. Just look at those sad little eyes on page 26!



Dyn Dweud Drefn’s temper tantrums are very amusing, and are especially funny because its actually he who planted the flowers too far, he who decided to grow potatoes, and it was he who went to sleep under the apple tree. You often see that with angry, shouty people – it’s always someone else’s fault!

There's a bit of the Dyn Dweud Drefn in all of us sometimes, isn’t there?


Once again, Gwen Millward’s pictures are affectionate, likeable and very pretty. Just look at those flowers – I wish my garden looked like that! The book is also very well set out IMO with the text evenly distributed across the book, which means that there isn’t too much writing on the pages.



After a long day of shouting and being a general grump (being angry is hard work y’know) he’s finally sitting in his chair with a big smile on his face – but how long will that last I wonder…?


 

Cyhoeddwr/publisher: Gwasg Carreg Gwalch

Cyhoeddwyd/released: 2020

Pris: £4.95

ISBN: 978-184527-734-5

 


A dyma beth sydd gan Bethan Gwanas i ddweud am y llyfr yn ei blog...




 

Recent Posts

See All

Comments

Rated 0 out of 5 stars.
No ratings yet

Add a rating
bottom of page