top of page
Writer's picturesônamlyfra

Y Dyn Dweud Drefn [yn chwarae pêl-droed] - Lleucu Fflyr Lynch

*For English review, see language toggle switch on top of webpage*

Oed diddordeb: 3-8 oed

Oed darllen: 5+

Lluniau: Gwen Millward

 

Mae’r Dyn Dweud Drefn yn ei ôl, a’r bêl gron sy’n mynd a’i fryd y tro hwn. Fatha nifer ohonan ni, mae o’n meddwl ei fod o dipyn gwell am chwarae pêl-droed nac ydi o mewn gwirionedd!



Yn amlwg tydi o heb newid dim, achos mae o’n fwy cranky nag erioed! Hwn yw’r trydydd llyfr yn y gyfres hoffus gan Lleucu Fflur Lynch, gyda lluniau gan Gwen Millward. Mae ei lluniau’n ysgafn ac yn hwyliog, ac yn cyfleu ystumiau’r cymeriadau’n dda. Gyda llaw, welsoch chi gi mwy ciwt ’rioed?


Dwi’n licio’r gyfres yma. I feddwl bod y Dyn Dweud Drefn yn gallu bod yn hen foi bach pigog, fedrai’m helpu ond ei licio. Mae o fel petai o’n fy atogffa o rywun, ond fedra i ddim meddwl yn union pwy. Cyfuniad o wahanol bobl ella - cymeriadau sarrug fatha Mr. Wilson, y dyn drws nesa o Dennis the Menace, Victor Meldrew o’r sitcom One Foot in the Grave, a thipyn bach o Gru o Despicable Me hefyd.


'ma t-shirts fi'n edrych rbwath tebyg i hynna ar ôl 'Dolig!

Un peth sy’n siŵr, mae o’n hynod o lwcus cael cyfaill mor ffyddlon a chlên â’r hen gi bach druan. Hyd yn oed pan mae’r Dyn Dweud Drefn yn ei hwyliau gwaethaf (ac yn bod reit hyll weithia) mae Ci Bach wastad yno i helpu.


Mae’n debyg fod y Dyn Dweud Drefn yn fwy o arddwr nac ydi o o beldroediwr, achos tydi o’n cael fawr o lwc gyda’r bêl nes i’r ci bach roi help llaw. Tybed a fydd y ci bach yn gallu gwireddu breuddwyd y Dyn Dweud Drefn o sgorio gôl y ganrif? Fydd ’na wên ar ei wyneb yntau dal i ddwrdio fydd o erbyn diwedd y stori?

 

Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch

Cyhoeddwyd: 2021

Pris: £4.95

ISBN: 9781845278243

 

HEFYD YN Y GYFRES...



 

AM YR AWDUR

Mae LLEUCU LYNCH yn enedigol o ardal Llangwm. Mynychodd Brifysgol Aberystwyth lle graddiodd yn y Gymraeg yn 2017. Fel rhan o’i chwrs dilynodd fodiwl Ysgrifennu Creadigol, ble lluniodd bortffolio o lenyddiaeth i blant, ac yn

portffolio hwnnw y gwelodd Y Dyn Dweud Drefn olau dydd am y tro cyntaf. Ar hyn o bryd mae’n gweithio fel Swyddog y Wasg gydag S4C yng Nghaernarfon.

Recent Posts

See All

Comentarios

Obtuvo 0 de 5 estrellas.
Aún no hay calificaciones

Agrega una calificación
bottom of page