top of page

Y Fainc Ffrindiau - Wendy Meddour [addas. Manon Steffan Ros]

Writer's picture: sônamlyfrasônamlyfra

Llyfr y Mis i Blant: Chwefror 2024


(awgrym) oed darllen: 6/7

(awgrym) oed diddordeb: 3-7+

 

"Dyma lyfr y dylai bob athro ddefnyddio ar gychwyn tymor ysgol i rannu neges o garedigrwydd."

A hithau’n adeg dychwelyd i’r ysgol (neu gychwyn o’r newydd i rai) dyma gyfle perffaith i rannu stori dyner ac annwyl, sef Y Fainc Ffrindiau (The Friendship Bench) gan Wendy Meddour, wedi ei haddasu’n grefftus gan Manon Steffan Ros.


Fel rhywun sy’n eithaf hyderus (ar y tu allan beth bynnag), mae pobl yn synnu pan dwi’n dweud wrthyn nhw nad ydw i fel ‘na go iawn. Er mod i’n ymddangos fel un sy’n fodlon siarad hefo pawb, dwi ddim yn un am wneud ffrindiau newydd yn hawdd, a dim ond cnewyllyn bach iawn o ffrindiau triw sydd gen i mewn gwirionedd. Mi uniaethais efo’r llyfr yma felly, er nad ydw i’n blentyn.


Da ni gyd yn ‘nabod y teimlad ‘na dydan, y teimlad o bili palas yn y bol wrth gyrraedd sefyllfa newydd.  Boed chi’n blentyn bach ar eich diwrnod cyntaf o ysgol neu’n oedolyn yn landio mewn cynhadledd ddiarth, ‘da ni gyd yn cael teimladau o bryder a nerfusrwydd o dro i dro.


gwahanol (a neis) cael athro gwyrywaidd yn dysgu'r rhai bach

Mae’r ferch yn y stori mewn sefyllfa debyg, ar ôl iddi symud cartref a chychwyn ysgol newydd, am resymau heb eu crybwyll. Ar ôl treulio oriau tu allan yn chwarae gyda’i hoff gyfaill yn y byd, Cysgod y ci, dydi Tes ddim yn edrych ymlaen at orfod aros tu fewn drwy’r dydd, a hynny heb ei hannwyl gi. Yn anffodus chaiff cŵn ddim dod i’r ysgol...


Ar ôl diwrnod cyntaf eithaf digalon ac unig, awgryma’r athro clên iddi roi cynnig ar y fainc ffrindiau- sêt sy’n helpu plant i ffeindio ffrindiau. Pan mae hi’n cyrraedd, mae rhywun yn eistedd arni’n barod, ac wedi bod yno ers tro. Dwi wrth fy modd gyda diniweidrwydd y ddau yma, wrth iddynt gredu nad yw’r fainc yn gweithio gan eu bod yn dal i eistedd arni.



Ar ôl rhoi ail gynnig, ma’r bachgen a’r ferch yn taro sgwrs. Mwyaf sydyn, mae’r ddau’n dechrau cyd-weithio i ‘drwsio’r’ fainc ‘ddiffygiol.’ Fel darllenwyr, fe wyddwn ni’r gwir - mae’r fainc yn gweithio’n berffaith!


Mae’r addasiad yma’n enghraifft o sut i wneud addasiadau’n iawn. Bron na sylweddolais mai addasiad oedd hi o gwbl a dweud y gwir. Wrth edrych ar luniau syml a naturiol Daniel Egnéus, gallwn ddychmygu rhyw bentref ger y môr rhywle ym Mhen Llŷn neu yng Nghernyw.


Yn sicr byddai’r stori yma’n addas iawn i’w rannu gyda dosbarth babanod ar ddechrau blwyddyn ysgol, neu pan mae disgybl newydd yn ymuno â’r dosbarth. Nid y fainc sydd â’r pŵer i greu ffrindiau mewn gwirionedd, ond mae’r pŵer o du fewn i ni’n hunain, jest bod rhai plant dipyn bach yn swil ac angen hwb bach i helpu.

Gobeithio bydd y stori’n perswadio plant i estyn croeso i aelodau newydd, ac i ddyfalbarhau hefyd. Hyd yn oed os yw pethau’n teimlo’n anobeithiol ar y dechrau, fe fydden nhw’n iawn yn y pen draw.


Dwi wedi gweld mainc debyg yn sgwâr y dref yn ddiweddar, gydag arwydd bach arni. Tro nesaf dwi yna, dwi’n mynd i eistedd arni am ‘chydig a gweld be ddigwyddith. ‘Da chi byth yn gwybod pwy ‘newch chi gyfarfod...



 

Gwasg: Atebol

Cyhoeddwyd: Ionawr 2024

Pris: £7.99

Fformat: Clawr meddal


 



Recent Posts

See All

Comentarios

Obtuvo 0 de 5 estrellas.
Aún no hay calificaciones

Agrega una calificación

© 2019 Sônamlyfra. Proudly created with Wix.com.

Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.

  • Facebook Social Icon
  • Twitter Social Icon

Menter gwirfoddol yw Sôn am Lyfra sy’n darparu adolygiadau dwyieithog o lyfrau Cymraeg i blant a phobl ifanc. Bydd hefyd yn cynnig llwyfan i sgyrsiau a thrafodaethau am lyfrau. Rydym yn gweithredu’n gwbl annibynnol ac yn gwerthfawrogi unrhyw roddion all ein helpu i gyflawni'r nodau hyn.  Bydd eich rhodd yn help i ni gynnal y gwasanaeth.

 

Sôn am Lyfra is a voluntary venture that provides bilingual reviews for Welsh children and young people’s books. It shall also be a platform for conversations and discussions about books. We operate totally independently and we appreciate any donations that help us to achieve our goals. Your kindness will help us maintain the Service.

bottom of page