top of page

Y Ferch Newydd - Nicola Davies a Cathy Fisher

Writer's picture: sônamlyfrasônamlyfra

Updated: Jan 5, 2021

*Scroll down for English*




Dyma lyfr hardd a chain sy’n ffrwyth y bartneriaeth wych rhwng Nicola Davies a Cathy Fisher. Mae lluniau prydferth Cathy yn ychwanegu at stori hyfryd Nicola i greu llyfr sydd â neges bwysig iawn am gynhwysiad, caredigrwydd a chyfeillgarwch.


Stori yw hon am ferch newydd Japaneaidd sy’n symud i’r ysgol ac yn cael ei hanwybyddu gan y plant eraill yn ei dosbarth. Mae’r ferch yn profi tristwch ac unigedd, ac mae hi’n gwbl anweledig i’r disgyblion eraill. Ond, yn wahanol i’r ymateb disgwyliedig, nid yw’r ferch yn digio, yn hytrach mae hi’n ymateb trwy gyflawni gweithred o garedigrwydd tuag at y plant eraill. Nid oes angen geiriau ar y ferch i ddangos caredigrwydd at eraill, ac mae hyn yn wir i ni gyd. Yn raddol, mae cyfeillgarwch yn datblygu rhyngddi hi a merch arall (adroddwr cudd y stori) ac yna, gyda phawb arall yn y dosbarth.


Spread from 'Y Ferch Newydd' illustrations by (c) Cathy Fisher, words by (c) Nicola Davies, published by Graffeg.

Dyma i chi stori sydd mor syml, ond eto mor effeithiol. Dwi’n gwybod y bydd y stori yma’n hynod o ddefnyddiol yn y Cyfnod Sylfaen neu mewn gwasanaethau boreol sy’n ymwneud â chyfeillgarwch a/neu amrywiaeth. Dyma lyfr sy’n gyflwyniad da ar gyfer trafod teimladau ac emosiynau gyda phlant ifanc, yn ogystal â dysgu sut i ddangos empathi tuag at eraill. Un o’r prif negeson i mi oedd byddwch garedig. Hyd yn oed os yw rhywun yn gas gyda chi, peidiwch â gadael i hynny eich troi chi’n gas - byddwch yn glên gyda nhw.


Mae’r cyswllt gyda Siapan yn gyfle da i ddysgu mwy am ddiwylliant a thraddodiadau gwahanol. Un enghraifft o hyn yw’r siapiau papur origami sy’n rhan o’r stori. Roeddwn i’n hoffi sut roedd y plant eraill yn dangos cymaint o ddiddordeb a chwilfrydedd yn nhraddodiadau’r ferch – unwaith y gwnaethon nhw beidio ofni’r anghyfarwydd a’i derbyn fel rhan o’r criw.


Spread from 'Y Ferch Newydd' illustrations by (c) Cathy Fisher, words by (c) Nicola Davies, published by Graffeg.

Un o’r plant sy’n anwybyddu’r ferch i ddechrau yw adroddwr y stori, ac fe welwn newid ynddi hi a’i hagwedd wrth i’r stori fynd yn ei flaen. Person anhysbys oedd ‘Y Ferch Newydd’ iddi i ddechrau, ond datblygodd i fod yn berson go iawn, ac erbyn y diwedd cyfeiria ati fel ‘fy ffrind Kiku’. Mae’r lluniau hefyd yn gweithio law yn llaw â’r stori i gyfleu unigrwydd y ferch yn effeithiol ar y cychwyn. Wrth i gyfeillgarwch ddatblygu, defnyddir lliwiau mwy cynnes i gyfleu hynny trwy’r lluniau. Roedd y ffont syml, plentyn-gyfeillgar a ddewiswyd ar gyfer y stori yn gweddu’r llyfr yn dda hefyd.


Roedd hi’n ddiddorol darllen mwy am yr awdur a’r arlunydd yng nghefn y llyfr. Cyflwynir y llyfr i “bob plentyn sy’n brwydro i gael ei weld”. Mae hyn yn rhywbeth i ni oedolion ystyried, yn enwedig yr athrawon yn ein plith. Dwi’n gwybod o brofiad fod rhai plant tawel yn gallu llithro drwy’r rhwyd weithiau pan mae nhw’n cystadlu yn erbyn cymeriadau cryf – rhaid i ninnau gofio bod yn fwy sylwgar.


 

This beautiful and delicate book is the result of the wonderful partnership between Nicola Davies and Cathy Fisher. Cathy's beautiful pictures compliment Nicola’s heart-warming story to create a book that has a very important message about inclusion, kindness and friendship.


This is a story about a Japanese girl who joins the school and is subsequently ignored by the other children. The girl experiences loneliness and isolation and is all but invisible to other pupils. But, instead of the expected response to this behaviour, the girl does not show anger and feelings of revenge, but instead, displays an act of kindness towards the other children. She doesn’t need words to express her kindness either, and I’d say this is true for all of us. Gradually, friendships develop between her and another girl (the hidden narrator of the story) and then, eventually with the rest of the class.


This story is so simple, yet effective. I know that this book will be extremely useful in the Foundation Phase or in morning assemblies relating to friendship and diversity. This book is a good introduction for discussing feelings and emotions with young children, as well as learning how to show empathy towards others. One of the main messages I took from it was ‘be kind’. Even if someone is nasty with you, don’t be like that back -show kindness to them regardless.


Spread from 'Y Ferch Newydd' illustrations by (c) Cathy Fisher, words by (c) Nicola Davies, published by Graffeg.

The link with Japan is a good opportunity to learn more about different cultures and traditions. One example of this is the origami paper shapes that are a fundamental part of the story. I liked how the other children showed so much interest and curiosity in the girl's traditions – once they stopped being afraid of the unknown and accepted her into the fold.


Spread from 'Y Ferch Newydd' illustrations by (c) Cathy Fisher, words by (c) Nicola Davies, published by Graffeg.

One of the children that initially ignored the girl is the unseen narrator of the story, and we see a change in her and her attitude as the story progresses. 'The New Girl' was initially an unknown person, but throughout the story she started to be viewed as a real person, and by the end, the narrator refers to her as 'my friend Kiku'. The pictures work hand in hand with the story to convey the girl’s loneliness effectively at the start. As the friendship blossoms, warm and softer colours are used to convey that through the pictures. The simple, child-friendly font chosen for the story also suited the book.


It was interesting to read more about the author and artist at the back of the book. The book is presented to "every child who fights to be seen". This is something for us adults to bear in mind, particularly the teachers amongst us. I know from experience that some quiet children can sometimes slip through the net when they are competing against stronger and louder characters – we must remember to be more observant.

 

Cyhoeddwr/publisher: Graffeg

Cyhoeddwyd/released: 2020

Pris: £7.99

 

ADNABOD YR AWDUR A'R ARLUNYDD

Mae’r awdur Nicola Davies wedi ennill nifer o wobrau, ac ymhlith ei llyfrau i blant mae The Promise (Gwobr Llyfrau Green Earth 2015, Rhestr Fer Greenaway 2015), Tiny (Gwobr AAAS Subaru 2015), A First Book of Nature, a Whale Boy (Rhestr Fer Gwobr Blue Peter 2014). Ymhlith ei llyfrau ar gyfer Graffeg mae Perfect (Rhestr Hir Greenaway 2017), The Pond, Animal Surprises (Rhestr Hir Klaus Flugge 2017), a chyfresi Shadow & Light a Country Tales. Graddiodd mewn swoleg o Goleg yr Iesu, Caergrawnt, gan astudio gwyddau, morfilod ac ystlumod cyn dod yn gyflwynydd ar The Really Wild Show a gweithio yn Uned Hanes Natur y BBC. Bu’n ysgrifennu llyfrau i blant am dros ugain mlynedd, a sylfaen holl weithiau Nicola yw ei chred fod perthynas â natur yn hanfodol i bawb, a bod angen inni adnewyddu’r berthynas honno yn awr yn fwy nag erioed.



Roedd gan Cathy Fisher wyth o frodyr a chwiorydd, a byddai’r plant i gyd yn chwarae yn y caeau’n edrych allan dros ddinas Caerfaddon. Mae wedi bod yn athrawes ac arlunydd drwy ei hoes, yn byw ac yn gweithio ar Ynysoedd y Seychelle ac Awstralia am flynyddoedd maith. Celf yw iaith frodorol Cathy. Pan oedd yn blentyn byddai’n tynnu lluniau ar waliau ei stafell wely, a byth ers hynny mae wedi teimlo bod rhaid iddi beintio a thynnu lluniau o storïau a theimladau am ei bod yn credu bod angen iddynt gael eu clywed. Perfect (Rhestr Hir CILIP Kate Greenaway 2017) oedd llyfr cyntaf Cathy i gael ei gyhoeddi, wedi ei ddilyn gan The Pond a chyfres Country Tales.


Gwybodaeth o Graffeg.com

 

CHECK OUT A BRILLIANT Q&A WITH THE AUTHOR FROM FELLOW LOVERS OF WELSH BOOKS, FAMILY BOOK WORMS...


Family Bookworms is a family of bookworms based on the Wrexham/Shropshire borders. Their aim with familybookworms is to encourage their own children with their reading and to spread the enjoyment from sharing stories, engaging with authors and discovering new books.

 

Recent Posts

See All

Comments

Rated 0 out of 5 stars.
No ratings yet

Add a rating
bottom of page