♥︎Rhestr Fer Tir na n-Og 2024 Shortlisted♥︎
(awgrym) oed darllen: 6+
(awgrym) oed diddordeb: 5+
Lluniau: Naomi Bennet https://www.instagram.com/naomibennetillustration/?ref=srmma1jpt_miv
Ar ddiwedd cyfnod o dair blynedd ar banel y Beirniaid Tir na n-Og, mae ‘leni yn flwyddyn ddiddorol, achos dwi wedi cael eistedd yn ôl fatha civvie, a mwynhau trio dyfalu pwy oedd am wneud hi i’r rhestr fer, a pwy fyddai’n cipio’r brif wobr (wnes i ddim dyfalu’n dda iawn o gwbl, gyda llaw!)
Doedd hi ddim yn syndod o gwbl i mi pan glywais fod Y Gragen wedi cael ei chynnwys ar y rhestr fer. Does ond rhaid edrych arno i sylwi fod hwn yn llyfr hynod o brydferth. Ac er fy mod i’n siomedig na ddaeth i’r brig, mae’n dal yn llyfr sy’n werth ei phrynu neu ei fenthyg.
Cerdd gan Casia Wiliam yw sylfaen y llyfr, ac fel dwi i’n dallt, roedd yn rhan o gystadleuaeth ardderchog yn Eisteddfod yr Urdd, lle mae gofyn i ymgeiswyr ifanc greu gwaith celf gwreiddiol i gyd-fynd â geiriau. Enillydd y gystadleuaeth oedd Naomi Bennet, sydd wedi gwneud dipyn o argraff gyda’i chyfrol gyntaf -nid pawb sy’n cyrraedd rhestr fer TNNO, wedi’r cwbl. Dwi wir yn gobeithio gweld mwy o’i gwaith mewn llyfrau gwreiddiol i blant. Dyma press release ar gyfer y gystadluaeth:
Nod y gystadleuaeth yw darganfod talent newydd ym myd darlunio llyfrau, ac mae’r end result yn enghraifft dda o lun a thestun yn dod at ei gilydd i greu cyfanwaith hyfryd. Does dim o’i le â gwaith darlunio modern computer animated, ond i mi, does dim all guro gwaith celf draddodiadol yn defnyddio paent dyfrlliw go iawn. Dwi wrth fy modd hefo sut mae’r lliwiau yn blendio mewn i’w gilydd. Dwi wedi gwirioni hefo’r sbred yma- mae hyd yn oed y gwylanod felltith yn edrych yn fawreddog.
Sawl tro ar hyd y blynyddoedd, mae ymwelwyr wedi dweud wrtha i, “oh you’re so lucky to live where you do” neu “it’s so beautfiul here, wish we lived here.” Ac er fod y geiriau dipyn yn cliché, weithiau, ‘da ni’n dueddol o gymryd hynny’n ganiataol. Mae’n hawdd cwyno ac anghofio pa mor lwcus ydan ni yma yng Nghymru.
Yn fras iawn, mae’r stori’n dilyn teulu sy’n dod o’r ddinas i ymweld â thraeth glan y môr, felly dim yn annhebyg i ni yma yn Llandudno, sy’n croesawu nifer o dwristiaid o dros y ffin a thu hwnt. Teimlwn y rhyfeddod a’r cyffro wrth i’r bachgen gael profiadau newydd am y tro cyntaf, fel teimlo’r tywod dan ei fodiau traed, a chlywed y tonnau’n rhuo. Bydd yr atgofion ganddo am byth, yn bell ar ôl dychwelyd i’w fflat high rise yng nghanol y ddinas fawr.
Dwi newydd fod yn Llundain yn gweld fy chwaer, ac er bod cerdded drwy ganol bwrlwm Camden yn brofiad yn ei hun, doedd dim gwell teimlad na chamu oddi ar y trên yn ôl yng Nghonwy, a gweld y môr a’r mynyddoedd unwaith eto. Os dim byd arall, mae Y Gragen yn gwneud i rywun sylweddoli cymaint yw ein braint o gael byw mewn lle mor braf, a dwi’n ddiolchgar iawn am hynny.
Mi fyddai’n debygol iawn o ddefnyddio’r llyfr yma fel adnodd yn yr ysgol, (cyfnod sylfaen a CC2 yn enwedig) ac mae’r cod QR gyda linc i’r adnoddau yn handi iawn.
コメント