top of page
Writer's picturesônamlyfra

Y Llew Frenin [addas.Mared Llwyd]


(awgrym) oed darllen: 6+

(awgrym) oed diddordeb: 5-11


 


Mae’r pwnc llyfrau gwreiddiol vs addasiadau’n codi o dro i dro, gyda rhai yn feirniadol iawn o addasiadau am eu bod y teimlo fod nhw'n cael eu cyhoeddi ar draul llyfrau gwreiddiol. Dydi’r iaith mewn addasiadau ddim bob amser yn llifo’n naturiol chwaith. Y gwir ydi, fel popeth mewn bywyd mae angen cydbwysedd, a tydi rhaglen gyhoeddi ddim gwahanol. Mae angen y ddau fath o lyfrau arnon ni, ac mae addasiadau yn chwarae rhan bwysig mewn iaith leiafrifol, lle mae cynnal digon o amrywiaeth yn gallu bod yn her. Y gobaith yw, wrth gwrs, fod pobl sy’n anghyfarwydd â llyfrau gwreiddiol yn cychwyn drwy ddarllen addasiadau cyfarwydd, a bod hynny’n agor y drws iddynt ar gyfer darllen llyfrau gwreiddiol Cymraeg.


Does dim brand yn fwy cyfarwydd ar draws y byd na Disney, ac mae’n bwysig fod ein  plant yn gallu darllen am eu hoff gymeriadau adnabyddus drwy’r Gymraeg. Dod ar draws y gyfres yma wnes i ar hap a damwain wrth sortio llyfrau yn stafell gefn y llyfrgell, a meddwl fod hi’n werth rhoi mensh iddyn nhw.



Bydd y llyfrau yma’n addas iawn i blant ifanc sy’n dechrau darllen yn annibynnol. Mae tipyn o waith darllen, ond mae’r testun wedi ei osod mewn ffont glir ar gefndir gwyn gan amlaf. Dwi’n dipyn o nerd am ffontiau, ac mae rhai annoying yn mynd dan fy nghroen (comic sans anyone?). ‘Sgen i ddim syniad beth yw enw’r ffont yma, ond dwi’n meddwl fod hwn ymysg y goreuon ar gyfer darllenwyr ifanc, gan ei fod o mor glir.


Mae addaswr y gyfres, Mared Llwyd, yn athrawes profiadol sy’n gweithio ym maes cefnogi’r Gymraeg. Mae’r iaith yn addas ar gyfer y gynulleidfa darged ac yn cyd-fynd â’r fframwaith llythrennedd genedlaethol. Os ddilynwch chi’r QR code ar gefn y llyfr, mi gewch chi sawl taflen waith am ddim, sy’n handi iawn ar gyfer pasio’r amser ar bnawniau Sul glawog.



Un peth dwi ddim yn licio am y llyfr yw’r ffaith eu bod nhw wedi cyfieithu enw’r llew drwg o’r ffilm, Scar, i Craith. Doedd hynny ddim yn gweithio i mi, ac mi fysa dweud ‘Scar’ (efo acen Gymraeg lol) wedi bod yn ddigon hawdd!


Mae ‘na sawl teitl arall yn rhan o gyfres Disney: Agor y Drws, ac mae’r holl stampiau dyddiad ar flaen y copi llyfrgell yma’n dangos i mi ei fod o’n boblogaidd ymysg benthycwyr. Ar ôl darllen am hanes  Y Llew Frenin, bydd rhaid i mi ail-wylio’r ffilm rŵan. Roedd y caneuon mor catchy doedden! Hakuna Matata!


MWY YN Y GYFRES

Mae mor cŵl gallu darllen am yr holl gymeriadau enwog/adnabyddus yma drwy'r Gymraeg!




 

Cyhoeddwyd: Ionawr 2023

Cyhoeddwr: Rily

Pris: £4.99

Cyfres: Disney: Agor y Drws

Fformat: Clawr Caled


 

13 views0 comments

コメント

5つ星のうち0と評価されています。
まだ評価がありません

評価を追加
bottom of page