Genre: #amrywiaeth #teulu #iechydalles
Oed diddordeb: 0-3
Llyfrau syml a lliwgar sy’n cyfleu amrywiaeth ein teuluoedd.
Meddwl oeddwn i faswn i’n tynnu’ch sylw chi at y llyfrau bwrdd (boardbooks) bach ciwt yma i blant ifanc dan 3. Wedi cael eu cyfieithu o’r Sbaeneg maen nhw ac roeddwn i’n meddwl eu bod nhw’n enghreifftiau gwych o amrywiaeth yn ein llenyddiaeth plant.
Mae un llyfr ar gyfer deffro’r bore, ac mae’r llall ar gyfer amser mynd i’r gwely. Yn Yn gynnar yn y bore, fe welwn fachgen bach yn deffro cyn ei rieni (sefyllfa hen gyfarwydd dwi’n siŵr!) ac fe ddilynwn y bachgen, a’i gath yn ystod y morning routine.
Yn yr ail lyfr, Dim Chwarae, Mot! Mae’r ferch a’i chi yn llawn egni, er ei bod hi’n hwyr. Llawer gwell ganddynt chwarae ‘na mynd i’r gwely.
Mae’r llyfr yn cynnwys parau rhieni un-rhyw ac fe gaiff hyn ei gynnwys yn ddiffwdan ac yn naturiol fel rhan o’r stori. Grêt! Prin fod angen sôn am y peth neu dynnu sylw iddo o gwbl, oni bai mod i heb ei weld o’r blaen mewn llyfr Cymraeg. Da fod yr amrywiaeth yng Nghymru gyfoes yn cael ei adlewyrchu yn ein llyfrau a bod hyn yn normaleiddio’r syniad o ‘mami a mami’ neu ‘dadi a dadi’ o’r crud.
Ar gael yn Saesneg hefyd o dan y teitlau Early One Morning a Bedtime, Not Playtime!
Gwasg: Canolfan Peniairth
Pris: £5.99
https://siop.peniarth.cymru/index.php?route=product/product&product_id=445
Comentarios