top of page

Ynyr yr Ysbryd a'r Dylwythen Deg - Rhian Cadwaladr a Leri Tecwyn

Writer's picture: sônamlyfrasônamlyfra

Updated: Jun 3, 2022

*For English review, please see language toggle switch*


(awgrym) Oed diddordeb: 3-7

(awgrym) Oed darllen: 6/7+

 

Bww! Mae’r ysbryd bach mwyaf ciwt a welsoch chi ’rioed yn ei ôl! Dwi’m yn meddwl y bydd o’n ennill unrhyw wobrau am ddychryn neb, ond mae’n sicr yn gradur bach annwyl.


Y tro yma, ar ôl i’r ysbryd ifanc ddatgan nad oes ganddo unrhyw ffrindiau (bechod☹) mae’n cael ei hel o’r tŷ gan ei fam yn reit ddidrugaredd i fynd i chwilio am rai. Dwi’n siŵr ein bod ni i gyd yn gyfarwydd â’r hen deimlad ’na o landio mewn sefyllfa newydd, ar ben eich hun, lle ’da chi ddim yn nabod neb, felly dwi’n teimlo bechod dros Ynyr, ac yn falch ohono am roi cynnig arni.


Er iddo drio a thrio, mae gan y bobl a’r anifeiliaid ormod o ofn ysbyrydion i gysidro bod yn fêts efo fo. Dydi hi ddim yn hawdd bod yn ysbryd, nac ydi!


Ond ar ôl iddo weld Tylwythen Deg yn straffaglu efo sanau (i wybod pam mae’n rhaid i chi ddarllen y stori!) mae o’n gweld ei gyfle i wneud cyfaill bach newydd. Y broblem ydi, does ganddi hi ddim diddordeb bod yn ffrindiau!


Ydi ein ffrind tryloyw am roi’r ffidil yn y to? Go brin! Mae Ynyr yn dipyn o wariar, ac mae’n dyfalbarhau, gan feddwl am ffyrdd creadigol o ddod i nabod y Dylwythen Deg yn well.


Mae’n hawdd iawn beirniadu rhywun y tro cyntaf i chi eu cyfarfod nhw, ac weithiau, mae’n rhaid rhoi ail gyfle i rhywun. ’Da chi byth yn gwybod... Yn siarad o brofiad, doedd gan un ferch benodol ddim llawer o fynadd hefo hen foi gwirion fatha fi ar gychwyn ein dyddiau coleg, ond dros amser, fe ddaethon ni’n dipyn o ffrindia, a rŵan mae hi’n wraig i mi! Felly os dydi hynny ddim yn eich annog i ddyfalbarhau, dwi’m yn gwybod be neith!


Dwi wrth fy modd hefo'r llun yma!

Tîm mam a merch sydd y tu ôl i’r gyfres yma, ac mi o’n i eisoes wedi gwirioni gyda gwaith arlunio Leri ar ôl ei hymdrechion gyda’r gyfres arall Tomos Llygoden y Theatr. Tra bod rheiny’n llyfrau maint poced, mae llyfrau cyfres Ynyr yr Ysbryd yn anferth o’u cymharu. Mae Ynyr yn cael llyfryn mawr maint A4, sy’n gwneud cyfiawnhad â’r arlunwaith cynnes, bendigedig sy’n britho’r tudalennau. Mae ’na vibes traddodiadol, clasurol i’r gwaith celf, sy’n fy atgoffa o lyfrau plant pan oeddwn i’n blentyn. No disrespect i waith celf digidiol, modern, ond mae ’na jest rhywbeth am waith celf go iawn na fedrwch chi ei guro.


Stori ddigon syml am gyfeillgarwch, caredigrwydd a dyfalbarhad yw hon, ac mae ’na fwy o waith darllen nag y mae rhywun yn ei feddwl. Stori berffaith felly, i’w rhannu amser gwely. Ac yn debyg i’r ‘007 will return’ ’da chi’n weld ar ddiwedd ffilmiau James Bond, mae’n dda gweld y bydd Ynyr yn ei ôl unwaith eto.




 

Gwasg: Gwasg Carreg Gwalch

Cyhoeddwyd: 2022

Pris: £6.50

ISBN: 9781845278274

 

Recent Posts

See All

Comments

Rated 0 out of 5 stars.
No ratings yet

Add a rating

© 2019 Sônamlyfra. Proudly created with Wix.com.

Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.

  • Facebook Social Icon
  • Twitter Social Icon

Menter gwirfoddol yw Sôn am Lyfra sy’n darparu adolygiadau dwyieithog o lyfrau Cymraeg i blant a phobl ifanc. Bydd hefyd yn cynnig llwyfan i sgyrsiau a thrafodaethau am lyfrau. Rydym yn gweithredu’n gwbl annibynnol ac yn gwerthfawrogi unrhyw roddion all ein helpu i gyflawni'r nodau hyn.  Bydd eich rhodd yn help i ni gynnal y gwasanaeth.

 

Sôn am Lyfra is a voluntary venture that provides bilingual reviews for Welsh children and young people’s books. It shall also be a platform for conversations and discussions about books. We operate totally independently and we appreciate any donations that help us to achieve our goals. Your kindness will help us maintain the Service.

bottom of page