Adnabod Awdur
Rhian
Cadwaladr
Geni:
Ebrill 27, 1962
Ganwyd yn:
Llanberis
Byw yn:
Rhosgadfan
Ffeithiau Fflach
Llyfrau
(plant a phobl ifanc)
Mae Rhian wedi cyhoeddi ei llyfr cyntaf i blant yn dilyn cwrs ysgrifennu yng Nghanolfan TÅ· Newydd... https://www.tynewydd.cymru/
Dyma erthygl
diddorol am waith Rhian
ar North Wales Live.
​
Cliciwch yma i
ddarllen.
​
Nid ydym yn gyfrifol am wefannau allanol
Cwestiwn ac Ateb
Rhian Cadwaladr
Dyma gyfle'r actores a'r awdur, Rhian Cadwaladr i
ateb rai o gwestiynau Sôn am Lyfra am ei gwaith.
Beth wnaeth eich ysbrydoli i ddechrau ysgrifennu llyfrau?
​
Dwi ddim yn cofio amser pan nad oeddwn i isho bod yn awdur ond mi gymerodd flynyddoedd lawer cyn i mi fynd ati o ddifri.
Pa lyfrau wnaeth eich ysbrydoli chi fel darllenwr ifanc?
Roeddwn i'n darllen yn eang iawn pan oeddwn yn blentyn - roedd Mam yn arfer dweud fy mod i'n darllen cyn dod allan o fy nghlytia bron! Pan oni i chydig hÅ·n na hynny roeddwn i'n hoff iawn o lyfrau clasuron Saesneg i blant fel The Secret Garden, Heidi, Little Women, What Katy Did, Pipi Longstocking, Anne of Green Gables a llyfrau Charles Dickens. T Llew Jones un o fy ffefryna yn y Gymraeg.
Beth sydd bwysicaf – y cymeriadau neu’r plot? Hynny yw – beth sy’n gwneud llyfr da?
Y cymeriadau sydd bwysicaf i mi. Mae'n rhaid bod ots ganddoch chi am y cymeriad - boed yn ei garu neu ei gasâu. Os nad oes ots ganddoch chi yna tydi yr awch i wybod beth sy'n digwydd iddyn nhw ddim yna.
Beth yw eich llyfr diweddaraf i blant?
Beth ydych chi’n gobeithio i ddarllenwyr ei gael o ddarllen y stori?
Nain Nain Nain yw enw fy llyfr cynta i blant a gyhoeddwyd diwedd 2019. Llyfr ydi hwn sy'n cyflwyno y cyflwr dementia i blant bach. Fy ngobaith ydi y bydd y darllenwyr, drwy gyfrwng y geiriau a hefyd lluniau bendigedig Jac Jones, yn dod i ddeall 'chydig am y broses o heneiddio ac am y cyflwr, ond hefyd yn mwynhau cyfarfod neiniau lliwgar Nedw.
Beth yw eich hoff lyfr neu awdur i blant/pobl ifanc a pham?
O dyma gwestiwn anodd! Mae gwahanol lyfrau wedi apelio atai ar adegau gwahanol y fy mywyd. Ond os oes rhaid i mi ddewis un mi ddewisai Llyfr Mawr y Plant achos mi nes i fwynhau darllen hwn pan yn blentyn a mwyhau ei ddarllen eto i mhlant fy hun pan oeddan nhw'n fychan.
Oes yna gymeriad rydach chi’n ei garu neu ei gasáu?
Ella bod casau yn air rhy gry ond tydwi ddim yn hoff o Tomos y Tanc. Roedd Meilir fy mab hynaf wrth ei fodd efo'r gyfres pan oedd o'n blentyn ond roeddwn i'n eu gweld yn ddiflas iawn.
Pa neges sydd gennych i ysbrydoli darllenwyr/ysgrifenwyr ifanc?
​
Rhwng cloriau llyfr fe gewch chi gyfle i ddianc i fydoedd newydd ac i ddeall mwy am eich byd eich hun. Darllenwch unrhywbeth a phopeth - ond peidwich a disgwyl mwynhau bob dim! Os ydi un llyfr ddim yn apelio, chwiliwch am un sydd - mae yna gant a mil i ddewis ohonyn nhw! I ysgrifenwyr ifanc mi fyddwn i'n rhoi yr un cyngor ac ychwanegu dau air arall ato - jyst sgwennwch!
Diolch Rhian
​
am fod mor barod i ateb ein cwestiynau.
​
Rydan ni'n edrych ymlaen at y straeon newydd!
Ffaith
ddiddorol:
Y fi ydi'r Siani Flewog yn y gyfres deledu o'r 90au Caffi Sali Mali!
Oes llyfr newydd ar y gorwel?
Oes! Rwyf wedi bod yn gweithio ar lyfr newydd i blant bach o'r enw 'Ynyr yr Ysbryd Ofnus' gyda fy merch - y darlunydd Leri Tecwyn. Mi fydd o yn y siopa erbyn Calan Gaeaf gobiethio. Yn ogystal a hyn mae gen i nofel newydd i oedolion yn cael ei chyhoeddi yr haf yma.
Beth sydd well gynnoch chi - llyfr go iawn neu e-lyfr?
​
Llyfr go iawn pob tro - dwi'n hoff o deimlad llyfr yn fy llaw a hyd yn oed ei oglau! Tydi e-lyfr jesd ddim yr un fath.