top of page

Rhieni

Family Time
Beth ydi Sôn am lyfra?
Yn bennaf, gwefan sy'n cynnwys adolygiadau dwyieithog o lyfrau Cymraeg i blant a phobl ifanc yw Sôn am Lyfrau.
Mae hefyd yn ofod ar-lein i gael sgwrs am lyfrau. Mae gwybodaeth am awduron Cymraeg ar gael yma yn ogystal.
Sut fydd o'n ddefnyddiol i mi?
Bydd adolygiadau cynhwysfawr yn rhoi digon o wybodaeth i chi am lyfrau hen a newydd er mwyn eich helpu i benderfynu os yw llyfr yn addas. Gallwch glywed am y llyfrau mwyaf diweddar trwy'r wefan, ein cyfrif Twitter, Facebook ac Instagram!
Mom Reading a Book to her Daughter
Kids Reading Book in Park
Dwi ddim yn siarad Cymraeg...
Dim problem! Mae'r wefan yn berffaith i chi - yn enwedig os yw eich plentyn/plant yn mynd i ysgol Gymraeg. 
Mae 100% o'n hadolygiadau yn ddwyieithog ac mae 87% o'r wefan ar gael yn Saesneg (heblaw am gynnwys a grëwyd yn allanol).
Pa wybodaeth sydd yn yr adolygiadau?
Annotation 2020-02-16 15072s2.jpg

⦾⦾⦾⦾⦾   dim o gwbl

⦿⦾⦾⦾⦾   ychydig bach bach

⦿⦿⦾⦾⦾   ychydig

⦿⦿⦿⦾⦾  dipyn 

⦿⦿⦿⦿⦾  dipyn go-lew

⦿⦿⦿⦿⦿  llawer iawn

​

☆☆☆☆☆    gwael iawn

★☆☆☆☆   gwael

★★☆☆☆   gweddol

★★★☆☆   da 

★★★★☆   da iawn

★★★★★  Ardderchog/ffantastig!!

Rydym yn defnyddio system raddfa dotiau 0-5 i roi gwybodaeth i chi am gynnwys y llyfr. Os nad oes dotiau wedi'u lliwio, yna nid yw'n berthnasol. 
​
Mae 1-2 dot yn golygu ychydig bach iawn ac ychydig yn ôl eu trefn. Mae 3 dot yn golygu dipyn. Mae 4-5 dot yn golygu fod dipyn go-lew a llawer.
​
Ar gyfer her darllen, mae hyn wedi'i seilio ar farn yr adolygwr yn unig ac yn cael ei gymharu ag oed darged y llyfr. (llai o dots- haws, mwy o dots - anoddach)
​
Ar hyn o bryd nid ydym yn darparu unrhyw wybodaeth ychwanegol ar gyfer y categorïau hyn
 e.e. pa air rheg â ddefnyddir, pa ddarnau sy'n anodd, beth yw'r cyfeiriadau at ryw.
​
Cysylltwch os ydych yn meddwl fod rhywbeth ar goll.
download.jpg
Dwi'n dysgu Cymraeg!
Gwych! Da iawn chi! Mae llyfrau plant a phobl ifanc yn gallu bod yn ddefnyddiol iawn i bobl sy'n dysgu Cymraeg oherwydd fod y llyfrau'n fyrrach ac mae'r iaith yn haws.
 
Ewch at y dudalen adolygiadau ac edrychwch am lyfrau 12-14 neu 14+ i weld os oes un yn denu'ch sylw.

© 2019 Sônamlyfra. Proudly created with Wix.com.

Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.

  • Facebook Social Icon
  • Twitter Social Icon

Menter gwirfoddol yw Sôn am Lyfra sy’n darparu adolygiadau dwyieithog o lyfrau Cymraeg i blant a phobl ifanc. Bydd hefyd yn cynnig llwyfan i sgyrsiau a thrafodaethau am lyfrau. Rydym yn gweithredu’n gwbl annibynnol ac yn gwerthfawrogi unrhyw roddion all ein helpu i gyflawni'r nodau hyn.  Bydd eich rhodd yn help i ni gynnal y gwasanaeth.

 

Sôn am Lyfra is a voluntary venture that provides bilingual reviews for Welsh children and young people’s books. It shall also be a platform for conversations and discussions about books. We operate totally independently and we appreciate any donations that help us to achieve our goals. Your kindness will help us maintain the Service.

bottom of page