top of page

DIOLCH!!

...am ein cefnogi

Gwefan ar-lein di-elw yw 'Sôn am Lyfrau' sy'n cynnig gwasanaeth am ddim ar gyfer plant, pobl ifanc a rieni Cymru. Ein prif bwrpas yw cynnig adolygiadau o lyfrau hen a newydd er mwyn rhoi mwy o wybodaeth i chi. Drwy annog pobl i ddarllen llyfrau, rydym hefyd yn helpu'r diwydiant llyfrau yng Nghymru (sy'n bwysig iawn i ni gyd). Rydym yn awyddus iawn i helpu rhieni di-Gymraeg i ddarganfod mwy am lyfrau Cymraeg - mae'r adolygiadau'n cynnig mwy o wybodaeth na beth sydd i'w gael ym mroliant y llyfr. Yn bennaf mae'r wefan ar gyfer:

​​

• Plant 

• Pobl ifanc

• Rhieni

• Athrawon

• Unrhyw un sydd â diddordeb mewn llyfrau plant/pobl ifanc

Pam fod angen arian arnoch?
Office of a web design company

Cwestiwn da! Mae creu a chynnal gwefan yn gallu bod yn ddrud. Rhaid talu 'rhent' am gael defnddio'r gofod ar-lein ac mae costau blynyddol tanysgrifio er mwyn cadw'r wefan ar y we. Mae hefyd angen talu am gael defnyddio'r enw parth sonamlyfra.cymru. 

​

Meddylwich am yr oriau o waith sy'n mynd i mewn i gynnal y wefan, boed hynny'n ysgrifennu adolygiadau neu ychwanegu cynnwys newydd i'r wefan. Mi fyddai hyn, fel arfer, yn costio lot o bres ac yn swydd i rywun, ond mae staff Sôn am Lyfra yn gwneud popeth yn wirfoddol (yn eu hamser eu hunain) felly mae hyn yn helpu i gadw'r costau'n isel.

Iawn... ocê... ond... sut fydd yr arian yn cael ei ddefnyddio?

Dyna i chi gwestiwn da arall! Fel y nodwyd uchod, tydi 'staff' Sôn am Lyfra ddim yn cael eu talu o gwbl am edrych ar ôl y wefan. Bydd yr arian yn mynd tuag at dalu am gael cadw'r wefan ar y we yn unig. Mae hyn yn costio tua £100 y flwyddyn. Pe bai arian dros ben, bydd yn cael ei ddefnyddio i dalu am wobrau (copi o lyfr newydd) ar gyfer cynnal cystadlaethau fel ein bod yn gallu rhoi rhywbeth yn ôl i'n dilynwyr.

Oes rhaid i mi gyfrannu?

Ddim o gwbl! Mae Sôn am Lyfra a'r holl adnoddau ar gael ichi AM DDIM! Fe gewch ei ddefnyddio gymaint ag ydach chi isio, heb dalu ceiniog..... OND.....

​

OS ydach chi'n meddwl fod y wefan yn ddefnyddiol AC yn teimlo'n glên iawn... byddwn yn gwerthfawrogi unrhyw gyfraniad, boed fawr neu fach, mae pob ceiniog yn help i sicrhau dyfodol Sôn am Lyfra!

​

Iawn ta... mi wna i helpu...

Brill - diolch o galon! Help a chymorth pobl hael fel chi sy'n ein cadw i fynd. 

​

Cliciwch ar y botwm melyn isod i wneud cyfraniad o unrhyw faint, neu ewch i'n tudalen Ko-fi lle gallwch

gyfrannu hyd at £3 (pris un paned o goffi).

PayPal ButtonPayPal Button

Ewch i'n tudalen Ko-fi i ddarnganfod sut allwch chi wneud

rhodd.    https://ko-fi.com/sonamlyfra

ko-fi-1024x412.png

© 2019 Sônamlyfra. Proudly created with Wix.com.

Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.

  • Facebook Social Icon
  • Twitter Social Icon

Menter gwirfoddol yw Sôn am Lyfra sy’n darparu adolygiadau dwyieithog o lyfrau Cymraeg i blant a phobl ifanc. Bydd hefyd yn cynnig llwyfan i sgyrsiau a thrafodaethau am lyfrau. Rydym yn gweithredu’n gwbl annibynnol ac yn gwerthfawrogi unrhyw roddion all ein helpu i gyflawni'r nodau hyn.  Bydd eich rhodd yn help i ni gynnal y gwasanaeth.

 

Sôn am Lyfra is a voluntary venture that provides bilingual reviews for Welsh children and young people’s books. It shall also be a platform for conversations and discussions about books. We operate totally independently and we appreciate any donations that help us to achieve our goals. Your kindness will help us maintain the Service.

bottom of page