
Amdanon ni
Rydym ni gyd yn gwybod pa mor bwysig yw darllen, a pha mor bwysig yw cael llyfrau addas sy'n apelio. Mae pawb yn llawer fwy tebygol o ddarllen llyfrau y maen nhw'n eu mwynhau.
​
Pwrpas Sôn am Lyfra'n yw i ddarparu adolygiadau dwyieithog o lyfrau Cymraeg i blant a phobl ifanc.
​
Y gobaith yw y bydd y wefan yn help i blant, rhieni ac athrawon wrth ddod o hyd i'r llyfrau gorau.


“Mae'r byd llyfrau Cymraeg yn gallu bod yn ddryslyd, yn enwedig os ydych chi'n riant sydd ddim yn siarad Cymraeg. Gobeithio y bydd Sôn am Lyfra o gymorth i'r rheiny sydd eisiau cefnogi darllen eu plant.”
— Morgan Dafydd, cyn-athro a sefydlydd y wefan


“Bydd pob adolygiad ar Sôn am Lyfra ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg achos mae Cymru yn wlad ddwyieithog. Mae 'na gymaint o lyfrau gwych yn cael eu cyhoeddi yng Nghymru, a rydym ni'n awyddus i rannu'r rhain gyda chi."
— Llio Mai, Sôn am Lyfra

ANGEN HELP?
LLYFRAU
Fe fyddwn yn postio adolygiadau'n rheolaidd am lyfrau newydd a rhai o'r clasuron!
ADOLYGU
Os ydych chi wedi darllen llyfr da yn ddiweddar- rydym eisiau clywed gennych chi!
​
CYSYLLTWCH
Rydym wastad yn chwilio am gyfleoedd i gyd-weithio ac i wella'r wefan.
​